Y cartref Iddewig
Mae鈥檙 cartref yn fan pwysig arall i Iddewon a rhoddir gwerth mawr arno, gan ei fod yn fan lle dysgir gwerthoedd, credoau ac arferion Iddewig, a鈥檜 gweithredu.
Man addoli
Mae gwedd茂o ac addoli鈥檔 rhan bwysig iawn o ffydd Iddew, a hyd yn oed os yw鈥檔 mynd i鈥檙 synagog bob nos bydd yn dal i berfformio rhyw ffurf ar weddi ac addoliad yn y cartref, fel adrodd y ShemaGweddi sy'n datgan ffydd Iddewig ac sy'n cael ei hadrodd gan lawer o Iddewon ddwywaith y dydd. Mae'r Shema yn datgan mai dim ond un Duw sydd. Mae geiriau'r Shema yn cael eu gosod o fewn ces y mezuzah a'r tefillin. neu ddiolch i Dduw wrth ddeffro.
Hunaniaeth Iddewig
Mae cael eitemau fel y mezuzah Casyn bach sy'n dal sgr么l gyda geiriau'r Shema wedi eu hysgrifennu arni. Mae mezuzah yn cael ei roi ar bob cilbost mewn cartref Iddewig, heblaw am y stafell molchi, am nad yw hi'n cael ei hystyried yn lle i fyw. ar y fframiau drysau a鈥檙 menorahCanhwyllbren saith cangen a oedd yn cael ei gynnau'n ddyddiol yn y Deml ac sy'n rhan o bob synagog. yn y ffenestr yn ystod HanukkahG诺yl Goleuni yr Iddewon, sy'n cael ei dathlu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr bob blwyddyn dros gyfnod o wyth diwrnod. yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i Iddewon yn eu cartref.
Dathlu yn y cartref
Bydd Iddewon yn cynnal amryw ddathliadau a thraddodiadau yn eu cartref, fel y ShabbatSeithfed diwrnod yr wythnos; diwrnod o adnewyddu ysbrydol a gorffwys sy'n cychwyn ar fachlud haul ar y dydd Gwener ac yn dod i ben wrth iddi nosi ar y dydd Sadwrn., sy鈥檔 digwydd o fachlud haul ar nos Wener hyd fachlud haul nos Sadwrn bob wythnos. Yn ystod yr adeg hon bydd y teulu鈥檔 treulio amser yn meddwl am eu crefydd ac maent wedi鈥檜 gwahardd rhag gwneud unrhyw fath o waith. Mae llawer o draddodiadau鈥檙 Shabbat yn digwydd yn y cartref, fel gwraig y t欧鈥檔 cynnau canhwyllau, y pryd bwyd teuluol ac adrodd gweddi鈥檙 KiddushY fendith arbennig sy'n cael ei hadrodd dros gwpan o win neu win Shabbat cyn swper ar nos Wener..