Cred yn nysgeidiaeth y Shema
Mae Iddewon yn credu yn undodYn gwbl unigol. Unoliaeth. Duw. Gwelir hyn yn un o wedd茂au pwysicaf yr Iddewon, y ShemaGweddi sy'n datgan ffydd Iddewig ac sy'n cael ei hadrodd gan lawer o Iddewon ddwywaith y dydd. Mae'r Shema yn datgan mai dim ond un Duw sydd. Mae geiriau'r Shema yn cael eu gosod o fewn ces y mezuzah a'r tefillin. sy鈥檔 dechrau:
Y Shema Yisrael (Deut. 6: 4-9, 11: 13-21, Num. 15:7-41) yw鈥檙 weddi Iddewig fwyaf hynafol sydd i鈥檞 chael yn y TorahCyfraith neu ddysgeidiaeth. Mae modd defnyddio'r gair Torah yn yr ystyr cyfyng i olygu pum llyfr cyntaf y Beibl Hebraeg/Iddewig (Pum Llyfr Moses), a hefyd ar ystyr ehangach i gynnwys yr holl Feibl Hebraeg/Iddewig a'r Talmud.. Mae鈥檔 cadarnhau mai dim ond un Duw sydd. Dywed y Shema fod Duw yn bersonol ac yn mynnu cariad gan Iddewon 芒 phob agwedd o鈥檜 bodolaeth. Dywed hefyd y dylai Iddewon ddilyn ei orchmynion a chaniat谩u i鈥檙 cariad hwn gael ei weld. Bydd llawer o Iddewon yn dweud y Shema bob bore a nos gan ei bod yn weddi bwysig iawn.