˿

Cyflwyniad i waith maes – CBACCam 3 – Cyflwyno data

Mae gwaith maes daearyddiaeth yn ymwneud â gofyn cwestiynau am gysyniadau daearyddol, casglu data, dadansoddi’r canlyniadau a ffurfio casgliadau. Yn aml iawn mae adroddiad yn cael ei ysgrifennu am y gwaith maes. Mae angen i’r adroddiad gynnwys chwe cham.

Part of DaearyddiaethYmchwiliad gwaith maes

Cam 3 – Cyflwyno data

Cyflwyno data sydd wedi cael eu casglu yw un o’r camau mwyaf anodd. Mae’n bwysig dewis y dull iawn o gyflwyno data, ac mae gwybod sut i wneud graff yn sgil ddaearyddol hanfodol. Mae gallu dehongli ystadegau, gwneud cyfrifiadau ac archwilio cysylltiadau hefyd yn sgil ddaearyddol hanfodol ac mae’n bwysig iawn wrth ysgrifennu adroddiad gwaith maes.