Data ansoddol a data meintiol
Data ansoddol
Mae brasluniau maes yn fath defnyddiol o ddata ansoddolCanlyniadau sydd ddim yn cael eu mynegi fel data rhifiadol, er enghraifft gellir dweud bod rhywbeth yn bresennol neu’n absennol, neu gellir mynegi pethau ar ffurf lliwiau.. Maen nhw’n ein helpu i gofio lleoedd rydym wedi ymweld â nhw.
Sut i wneud braslun maes
Gall pawb wneud braslun maes – does dim angen sgiliau artistig. Mae gwneud braslun maes yn broses syml:
- Nodi’r dirwedd y mae angen ei braslunio.
- Ysgrifennu teitl a fydd yn ein helpu i leoli’r braslun, ee ‘Safle 1’.
- Defnyddio pensel i amlinellu prif arweddau’r dirwedd, ee bryniau a dyffrynnoedd neu adeiladau a ffyrdd.
- Ychwanegu manylder i’r braslun i gofnodi rhagor o wybodaeth, ee arweddau afon, fel ystum afonTro yn yr afon., clogwyn afonGlan afon serth sydd wedi ei chreu y tu allan i dro yn yr afon gan effaith erydol dŵr yn llifo’n gyflym ac yn is-dorri’r lan. a dyfroedd gwylltPan fydd cynnydd yng nghyflymder dŵr afon lle mae gwely’r afon ar lethr serth.. Does dim angen tynnu llun pobl os nad ydyn nhw’n bwysig i’r cwestiwn ymholi.
- Anodi neu labelu’r braslun maes i roi rhagor o wybodaeth am y dirwedd a’r amodau, ee sut oedd y tywydd?
- Fe allet ti dynnu llun camera i gefnogi’r braslun maes, neu ddefnyddio ap sy’n caniatáu i rywun anodi ffotograffau yn y maes.
Data meintiol
Mae data meintiol yn aml yn dod ar ffurf rhifau.
Mathau o ddata meintiol
Mae’n bosibl mesur llawer o wahanol bethau wrth wneud gwaith maes, er enghraifft cyflymderCyflymder gwrthrych i gyfeiriad penodol. afon, nifer y ceir neu swm y sbwriel.
Gall rhifau ymddangos mewn ffurfiau eraill hefyd:
- Data enwol – rhifau sy’n ymddangos fel categorïau yw’r rhain, ee 1 = oes a 2 = nac oes.
- Data trefnol – mae gan y rhifau hyn drefn, ee dinasoedd wedi’u trefnu yn ôl maint y boblogaeth. Rydym yn gwybod bod dinas 1 yn fwy poblog na dinasoedd 2 a 3, ond nid ydym yn gwybod faint mwy o bobl sydd yno, gan nad yw’r bwlch rhwng pob dinas yn hafal.
- Data cyfwng – mae’r rhifau hyn yn debyg i ddata trefnol, ond mae’r gwahaniaeth rhwng pob rhif yn hafal, ee mae tymheredd yn cael ei fesur mewn canraddau.
- Data cymhareb – mae cysylltiad rhwng dwy set o rifau, ee nifer y bobl i bob meddyg.