Cam 1 – Gofyn cwestiynau
Bydd rhaid i ti ysgrifennu am elfennau o dy waith maes fel rhan o asesiad diarholiad. Mae hyn yn golygu adroddiad ysgrifenedig, sy’n cynnwys tystiolaeth o dy ddealltwriaeth o’r broses ymchwilio, ac o dy allu i brosesu a chyflwyno data a chwblhau tasg ysgrifennu estynedig. Rhaid i ti ysgrifennu’r adroddiad mewn ymateb i gwestiynau penodol fydd yn cael eu gosod gan CBAC.
Mae gwaith maes mewn daearyddiaeth yn ymwneud â gofyn cwestiynau, ac mae’n gyfle i ti gymhwyso’r hyn rwyt ti wedi’i astudio i le go iawn. Bydd llawer o gwestiynau’n hawdd i’w hateb, ond nid pob un.
Mathau o gwestiynau gwaith maes
Ar ôl gofyn cwestiynau rhaid ceisio dod o hyd i atebion iddyn nhw. Yn aml iawn, bydd y cwestiynau hyn yn arwain at ragor o gwestiynau, a bydd angen archwilio’r rhain hefyd. Bydd darn da o waith maes daearyddiaeth yn aml yn cynnwys un cwestiwn mawr a nifer o ‘is-gwestiynau’ llai, sy’n deillio o’r cwestiwn mawr cychwynnol. Gallant fod yn gwestiynau daearyddiaeth ffisegolAstudio nodweddion a thirffurfiau naturiol, er enghraifft afonydd, arfordiroedd, tywydd., yn gwestiynau daearyddiaeth ddynolY math o ddaearyddiaeth sy’n astudio sut mae pobl yn rhyngweithio â’r tir. neu’n gwestiynau ffisegol a dynol:
- bydd cwestiynau ffisegol yn edrych ar dirweddau naturiol, ee afonydd neu arfordiroedd
- bydd cwestiynau dynol yn edrych ar amgylchedd sy’n cael ei greu gan bobl, ee dinasoedd neu gyrchfannau ymwelwyr