˿

Cyflwyniad i waith maes – CBACCam 2 – Sut mae tystiolaeth yn cael ei chasglu?

Mae gwaith maes daearyddiaeth yn ymwneud â gofyn cwestiynau am gysyniadau daearyddol, casglu data, dadansoddi’r canlyniadau a ffurfio casgliadau. Yn aml iawn mae adroddiad yn cael ei ysgrifennu am y gwaith maes. Mae angen i’r adroddiad gynnwys chwe cham.

Part of DaearyddiaethYmchwiliad gwaith maes

Cam 2 – Sut mae tystiolaeth yn cael ei chasglu?

Sut i gynllunio gwaith maes

Bydd y cwestiwn ymholi yn pennu pa ddata y mae angen eu casglu, ee ar gyfer cwestiwn ymholi sy’n ymwneud ag afonydd byddai angen cael mesuriadau afon, er enghraifft a dyfnder. Rhaid i’r data ateb y cwestiwn, ee byddai angen i astudiaeth o lwyth gwely afon gael mesuriadau o faint a siâp y cerrig.

Cyn mynd allan i wneud gwaith maes, bydd angen meddwl pa gyfarpar sydd eu hangen, pa ddillad sy’n addas a pha leoliad yw’r un gorau i gasglu data. Mae cynllunio ymlaen llaw yn sicrhau y bydd data o ansawdd da’n cael eu casglu.

Llun agos o esgidiau cerdded rhywun sy’n cerdded ar greigiau.
Image caption,
Mae angen esgidiau cryf i gerdded ar dir anwastad

Mae risgiau yn gysylltiedig â phob gwaith maes. Mae asesiadau risg yn ein helpu i ddeall y risg ac osgoi sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus, ee cerdded wrth ochr nentydd sy’n llifo’n gyflym neu gario cyfarpar drud drwy ardaloedd lle mae llawer o droseddu. Bydd asesiad risg da hefyd yn ystyried beth i’w wneud os bydd sefyllfa anodd yn codi.

Bydd angen i ti hefyd gynllunio a chynhyrchu dy daflenni cofnodi dy hun. Mae angen casglu a chofnodi data wrth wneud pob gwaith maes. Mae’n bwysig cynllunio taflen glir ar gyfer casglu’r data.

Gwahanol fathau o ddata

Gall data fod yn ddata:

  • dynol – gwybodaeth am bobl, ee dinasoedd a thwristiaeth
  • ffisegol – gwybodaeth am dirweddau naturiol, ee afonydd ac arfordiroedd

Gall data hefyd fod naill ai’n ddata:

  • cynradd – gwybodaeth sy’n cael ei chasglu o lygad y ffynnon, ee marciau rhifo, mesuriadau a ffotograffau neu
  • eilaidd – gwybodaeth mae rhywun arall wedi ei chasglu a’i rhannu o’r blaen, ee ar y rhyngrwyd

Yn olaf, bydd data hefyd naill ai’n ddata:

  • meintiol – gwybodaeth y mae’n bosibl ei mesur a’i chofnodi â rhifau
  • ansoddol – gwybodaeth sy’n disgrifio yn hytrach na mesur

Bydd angen casglu unrhyw wybodaeth fydd yn ddefnyddiol, gan ddefnyddio dulliau eraill hefyd o bosibl, ee cyfrifiadau, systemau sgorio ac .

Dwylo’n dal holiadur ar glipfwrdd ar stryd brysur.
Image caption,
Dylai taflenni casglu data fod yn glir

Dylai taflenni casglu data fod â chynllun syml fel bod y canlyniadau’n hawdd i’w darllen. Dylai’r casgliad o ddata fod yn ddigon mawr i osgoi a sicrhau mwy o gywirdeb. Mae hyn yn cael ei wneud drwy dechnegau . Mae tri phrif fath o samplu:

  • Samplu ar hap – dewis unigolyn i’w gyfweld, neu safle i’w fesur, ar hap. Mae samplu ar hap yn ddiduedd gan nad yw pobl neu leoedd arbennig yn cael eu dewis yn benodol.
  • Samplu systematig – casglu data mewn ffordd drefnus neu reolaidd, ee bob pum metr neu bob pumed person.
  • Samplu haenedig – rhannu’r samplu’n grwpiau, ee tri safle o bob rhan o forlin, neu bum person o bob ystod oedran. Mae’n bosibl cyfuno samplu haenedig â samplu ar hap a samplu systematig.

Os oes gennyt gyfrifiadur llechen (tabled) efallai y byddet yn gallu llenwi taflenni cofnodi ar y cyfrifiadur llechen. Byddai hyn yn gwneud y broses o fireinio data a rhannu data grŵp yn effeithlon iawn.

Llun agos o ddwylo’n dal cyfrifiadur llechen.
Image caption,
Drwy ddefnyddio llechen, neu ddyfais electronig gludadwy arall, mae’n bosibl casglu data a’u rhannu â phobl eraill