˿

Cyflwyniad i waith maes – CBACYsgrifennu adroddiad gwaith maes

Mae gwaith maes daearyddiaeth yn ymwneud â gofyn cwestiynau am gysyniadau daearyddol, casglu data, dadansoddi’r canlyniadau a ffurfio casgliadau. Yn aml iawn mae adroddiad yn cael ei ysgrifennu am y gwaith maes. Mae angen i’r adroddiad gynnwys chwe cham.

Part of DaearyddiaethYmchwiliad gwaith maes

Ysgrifennu adroddiad gwaith maes

Fel arfer, mae adroddiad neu ddarn estynedig yn cael ei ysgrifennu am y gwaith maes.

Mae chwe cham yr adroddiad gwaith maes fel a ganlyn:

  1. Cyflwyniad – yn yr adran hon rhaid i ti ofyn cwestiynau am gysyniadau a dulliau daearyddol amrywiol.
  2. Casglu data – disgrifio a chyfiawnhau’r ffordd y cafodd y data eu casglu. Dylai hyn fod yn fanwl iawn, fel bod rhywun arall yn gallu ailadrodd yr astudiaeth gan ddefnyddio’r un cyfarwyddiadau. Bydd angen i ti gynnwys map o’r safleoedd, rhoi brasamcan o’r amser ac egluro’n fanwl sut a ble i gymryd pob un o’r mesuriadau. Bydd angen i ti nodi’n glir beth oedd y brif fethodoleg gafodd ei defnyddio, er enghraifft trawsluniau. Rhaid i ti ddweud a yw pob techneg casglu data’n casglu neu , a chyfiawnhau maint y sampl a’r dechneg samplu gafodd ei defnyddio.
  3. Cyflwyno data – mae’n anodd dehongli tablau , felly rhaid cyflwyno’r data mewn ffyrdd gwahanol. Mae graffiau a siartiau’n ddefnyddiol gan eu bod yn ein helpu i weld patrymau mewn data. Rhaid i ti ddewis pa fathau o graffiau neu siartiau i’w defnyddio. Mae cyflwyno data’n gywir yn ein helpu i ffurfio casgliadau i’r ymholiad – mae’n anodd iawn deall data sydd wedi’u cyflwyno’n wael.
  4. Dadansoddi – prosesu’r data a thrafod patrymau. A oes patrymau clir ynteu a oes anomaleddau? Bydd angen i ti gyfeirio at ffigurau a lleoedd, a defnyddio termau daearyddol.
  5. Casgliad – dylai’r adran fer hon ddod â’r canlyniadau at ei gilydd i ateb y cwestiwn ymholi.
  6. Gwerthuso – ystyried cryfderau a gwendidau’r broses o gasglu data, nodi unrhyw anomaleddau ac egluro cyfyngiadau’r casgliadau. Bydd y rhan hon yn nodi gwelliannau, gwaith estynedig neu gwestiynau newydd posibl sydd wedi codi. Mae’n iawn i ti siarad am wendidau, os wyt ti’n gallu awgrymu gwelliannau.