Main content

Cerddi Rownd 1 2023

1 Trydargerdd: Mae’n ffaith...

Gwylliaid Cochion
Chwi Gofis mae’n bryd ich gysidro
o ddifrif a ddylech riteirio:
cawsoch stid rownd diwethaf, do –
y mae yn ffaith - a dyna fo!

Alun Jones 8

Caernarfon (IP/IaG)

Mae hi’n ffaith na chaiff Carlo’i
goroni mond unwaith
a bod ambell un arall
‘di cael hynny ddwywaith.

Ifan Prys 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ciwt’

Gwylliaid Cochion

Drwy lygaid Taid ciwt ydyw
y rôg canys ei 诺yr yw.

Tegwyn Pughe Jones 8.5

Caernarfon (GL)

’mond am heno, dwisio dyn –
un ciwt sy’n smocio cetyn.

Geraint Lovgreen 8

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Er gwaetha’r cynllunio gofalus’

Gwylliaid Cochion
Er gwaetha’r cynllunio gofalus
fe’m baglwyd gan bwl o thrombosis,
phlebitis a sepsis,
a miximatosis –
mae’r byd ‘ma yn llond o sypreisis.

Alun Jones 8.5

Caernarfon (EG)

Er gwaetha’r cynllunio gofalus,
A ’nelu y sat nav am Baris:
Collasom y trêl;
a tharo big bêl,
A threulio’n mis mêl yn Alltwalis.

Emlyn Gomer 8.5

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Datgelu

Gwylliaid Cochion

Y cwm llwyd - Cwm Lloi ydyw;
môr o wair, ond marw yw;
plaen yw'r pridd - lle plannu'r pren.
Tyrchais, gan dorri t'warchen
â'r bâl, ond draw be' welwn
yn dod fel ergyd o wn?
Rhenc ar renc, a darn o rug
yn wargrwm â'i lwyth morgrug,
a'u milwyr yn ymaelyd
â'r bâl rhag dinistrio’u byd.
Dinas di-sôn amdani,
ond â'm trais fe holltais hi.

Tegwyn Pughe Jones 10

Caernarfon (IP)

Sidan, sidan, hances wen -
clymu - rhyddhau colomen!

Yn neupen ffuglen a ffaith
rhythwn ar ei ledrithwaith,
trio dilyn tro’r dwylo;
mor rhwydd ei ddeheurwydd o.
Hudo pob anghredadun
wna abracadabra’r dyn,
rhoi cip o’r cyfrin inni’n
sêr y nos, consurio i ni
ochrau aur i gylch y rhod -
ninnau neb - ni chawn wybod!

Ifan Prys 10

5 Triban neu bennill telyn yn seiliedig ar unrhyw ddihareb

Gwylliaid Cochion
Mi welais frân ddu'n crwydro
â'i chyw mewn pram un p'nawn,
a beth oedd enw'r cyw bach tlws?
Wel Branwen debyg iawn.

Ifan Ffransis yn darllen gwaith Rhiain Bebb 9.5

Caernarfon

Cwrddais fran, ac meddai hi:
“Yli ar fy nghyw bach du!”
Ma’i ’di mynd tu hwnt i jôc
Pan fo hyd ’noed brain yn wôc.

Emlyn Gomer 9.5


6 Cân ysgafn: Deallusrwydd Artiffisial

Gwylliaid Cochion

Dwi wedi creu ryw robot, a hwnnw’n glyfar iawn.
Mae’n medru cynganeddu ag iwsho ’talnod llawn.

Mi fwydais ei feddalwedd ar ddeiet ffrwythlon, iach.
Holl rifynnau Golwg a Llyfr Bach y T欧 Bach.

Mewnbynnwyd y clasuron, fel awdlau Eifion Wyn,
stôr limrigau Løvegreen, tweets pawb o’r enw Bryn.

Beibl William Morgan, caneuon gorau Eden,
Emynau’r Pêr Ganiedydd, a penodau Noson Lawen

Bu’n gwledda ar holl berlau’r iaith, fel Sonedau bore Sadwrn,
cyn cael p岷僱 bach o dd诺r poeth ‘rôl trio Pigion Talwrn.

Do, mi ddysgodd yn reit gyflym y patrymau ac ymadroddion
a r诺an yn ddidrafferth mi ’sgwenith lyfrau ac englynion.

Robot Parry-Williams ydi’r enw ar y patent
(ar ôl yr unig fardd o Ddyffryn Nantlle efo talent)

A r诺an, mae wedi werthu, i execs Es Ffor Sii
i sgwennu sgriptiau Pobl y Cwm, heb drafferth (a heb ffi).

Grug Muse 8.5

Caernarfon

Dwi ar ben fy nigon yn byw yng Nghaernarfon, ond wrth i mi fyned yn hen
dwi’n edrych am gariad, ond gwael dwi am siarad, does gen i ddim llawer o frên,
Sgen i’m deallusrwydd, a cha’i ddim hapusrwydd, a wir dwi’m yn gwbod be wna’i –
ond clywais ryw sisial am frên artiffisial, rhyw system o’r enw A.I.

A dyna ffodusrwydd, mae’r ffug ddeallusrwydd ar gael yn agored i bawb
i sgwennu traethode, erthygle neu lyfre, mae A.I.’n gneud popeth yn hawdd.
Mi hoffwn i hynny, a dwi’n penderfynu, sgen i’m byd i golli, pam lai?
Mae i weld yn beth handi, mi af i amdani, ma raid imi drio A.I.

Mi holais i Edna sy’n ffarmio drws nesa lle mae’r A.I. gorau i’w ga’l,
O’n i mewn cyfyng gyngor ond dyma y cyngor ges i ganddi hi dros y wal:
Cer at y Weinyddiaeth – y Ministri Amaeth – fydd dy wartheg di byth yr un fath.
Pa wartheg? me’ fi, sgen i’m hyd yn oed ci, mond hamster mewn cawell a cath.

Ond ffonio a wnes i, a dydwi’m yn cresi, ond wir, ges i sgytwad go fawr -
Daeth dyn mewn siwt ddu’n cario briffces i’r t欧 a deutha’i am orwedd i lawr.
Tra’n whislo ‘Jean Genie’ rhoth beip fyny ’nhin i, a dyna pryd hities i’r to;
Dwnim be ddigwyddodd, ond ar ôl troi drosodd dwi bellach yn rhiant i lo.

O fy Nuw dyma uffern o strach!
Dydwi’m yn fuwch ond dwi’n magu llo bach!
Hwnnw yn strancio a brefu a phrancio ar y carped ac yn y t欧 bach.
O fy Nuw, dyma uffern o strach.

Geraint Lovgreen 9.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Ar b’nawn llwyd, fe’m daliwyd i

Gwylliaid Cochion

Rhoddais awr liwgar iddi

Ar b’nawn llwyd, fe’m daliwyd i

Tegwyn Pughe Jones 0.5

Caernarfon

Sbio’n llon ar goroni,
Ar b’nawn llwyd, fe’m daliwyd i

Ifor ap Glyn 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gwadu

Gwylliaid Cochion

Mae’n sôn
fod o a’r ferch
heb siarad ers blynyddoedd

wrth sgwrsio dros y clawdd.
Fo, y ci, a’r eithin,
a finna’r ochor arall
yn pwyso dros y rhesi pys.

Ond na, dim bwys.
I be a’i gwyno? Mi ‘dwi,
a’r ci, yn iawn.

Ac mae’r wlad yn llawn o ddynion tebyg
sy’n cerdded eu c诺n a’u pocedi’n llawn
dalan poethion a’u sanau yn llawn drain.

Mae o’n plygu yn ei grwman
i dynnu rhywbeth miniog o’r croen meddal, noeth
ar wadn pawen y ci. Bysedd tyner, gofalus,
sy’n dal yr anifail clwyfedig yn gryndod
yn ei freichiau main.

Grug Muse 10

Caernarfon (IaG)

Mae haul yr hwyr yn n诺r y ffos
fel awyr wedi rhwygo’r tir,
ond awn ymlaen;

daw oglau craf o ochor lôn
a’i flodau’n sêr sy’n diffodd yn y gwyll,
ond awn ymlaen
yn feilchion ‘gwynfydedig’
a’n hesgusodion tila, gwneud-y-tro,
fydd baich ein disgynyddion dirmygedig.

Eu fory fydd yn llosgi megis ffwrn;
fe dawdd y tarmac, os nad â
o dan y don. Ac er mai cariad
ac aberthu yw’r athrawon mawr,
a gwyddom mai trawsffurfio poen,
yn lle’i gyfleu yw’r nod,
gadäwn hyn yn faen i’n hwyrion ni,

fel pe na bai dim byd yn bod,
ac ie, fe awn ymlaen...

Ifor ap Glyn 10

9 Englyn: Cerdyn

Gwylliaid Cochion
Taid yn gwrthod cerdyn penblwydd

Nid y ddefod ddi-ofyn i nodi
oed ei ganfed blwyddyn,
ond dathlu’r teulu cytûn
a’i ardal, heb ei cherdyn.

Gwion Aeron 9.5

Caernarfon (IaG)

O amlen cydymdeimlad - daeth acw
A’i enw yn gennad;
Ond balm galar yw siarad
A’i lais o ’sa’r gwir lesâd.

Ifor ap Glyn 9