Main content

Cerddi Rownd 1 2023

1 Trydargerdd: Neges i recriwtio staff

Y Diwc (John Lloyd)
Cyflwynydd Hansh
Ni’n chwilio am un sy’n ground breaking,
Yn ifanc ar sgrîn ac yn striking;
Bydd rhaid bod yn cool
Cewch dorri pob rule,
Job actually really amazing.

John Lloyd 8.5

Y Ffoaduriaid (GWD)

Dim ond un rheol sydd'na
chewch chi ddim gweithio gartra,
rwy'n talu rhent am ofod gwag
a dwisho llenwi'r swyddfa.

Gethin Wynn Davies 8

Gwarchod safle cwmni lleol,
rhaid ymroi i swydd gyfrifol.
Diogelwch fydd yn gyfan,
cofiwch ddod â’ch ci eich hunan.
Os y’ch chi yn deall rhyngrwyd,
ac wedi astudio technoleg yn y coleg
allech gael swydd yn anfon ebyst i ni.
Ffacsiwch gopi o’ch CV!!!

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw air a diffiniad o’r gair hwnnw

Y Diwc (DRh)

Dwy alaw, un ar delyn,
Onid hud CERDD DANT yw hyn?

Dewi Rhisiart 9

Y Ffoaduriaid (LlGL)

T欧 i ddal tat yw ‘Tatws’:
Cei’i hel o’r drôr, cyn cloi’r drws.

Ll欧r Gwyn Lewis 9

 hyn o gof, oll yw GWIN

Yw ei groen a sudd grawnwin.

Mae barddas dinas Caerdydd
yn wael, dyna chi gelwydd.

Mam yn gwthio pram heibio poster tu allan adeilad y Senedd
Cyfarfod ‘Beth yw tlodi?’
Gwres neu swper ei her hi.

O'i roid mewn, y redimîl
yw paced datrys picil.

Os da yw dy foesau di
yr wyt yn 'wokerati'.

‘Byd gwyn’....rhaid tanbaid gwyno
yn awr i’w ddiffinio o.

Yn dy wyn llwyd, ‘mond-un-lliw’,
Mae marwolaeth amryliw.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae angen mesurau arbennig’

Y Diwc (GW)
Am ddrops yn fy llygaid a’r ffisig,
Yr eli i’r gowt sy’n drybeilig,
Mae’r Doc a fi’n un;
Ond, â’m pwysau fy hun,
Mae angen mesurau arbennig.

Gwilym Wyn Williams 8

Y Ffoaduriaid (LlM)

I un cant a thri ond ystyfnig
 choesau sy'n hynod grynedig
I ennill y limbo
Yn steddfod Mynytho
Mae angen mesurau arbennig.

Llio Maddocks 8.5

Mae angen mesurau arbennig

wrth ddelio â beirdd bach clwyfedig
a’u trin mor ofalus
â llawysgrif bregus
gyda chlustog a dau bâr o fenig.

Mae angen mesurau arbennig
fel haikus a cherddi acrostig
er mwyn creu dadeni
gan ddechrau eleni
pan gaf i nghoroni am limrig.

Dwi’n ffonio’r cenhedloedd unedig!
Mae angen mesurau arbennig
i rwystro fy meibion
lladratgar, afradlon
rhag bachu fy sglodion pasgedig!

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ymweliad

Y Diwc (DRh)

Glaniodd cog mewn cymdogaeth,
Ar dân am gymar y daeth,
A dodwy mewn nyth dedwydd
Un 诺y ffals a byw mewn ffydd.
Gwaith y cyw bach fydd gwthio
Yr wyau brau mas o’u bro,
A’u disodli’n das waedlyd,
A byw yn bowld yn eu byd.
Dwyn maeth y cenedlaethau
O geg ei rhieni gau,
A bydd chwedl rhybudd ei chân
Yn adlais trwy y goedlan.

Dewi Rhisiart 9

Y Ffoaduriaid (LlGL)

Rownd rhyw gornel na welaf,
cyn hir, bydd o yno’r cnaf,
yr hen gi dig, ffyrnig, du,
a’r hen wg, yn sgyrnygu.
A dyna fo, wedyn: fe fynn
y diawl gael dod i’m dilyn.

Waeth heb, ’chos mi neidith o
ryw un diwrnod, a darnio’r
hynny a gâr ohonof.
Be wnaf? Mi ddiolchaf yn ddof
hyd yn hyn, mai mynd a wna’r
hen was, tan y tro nesa.

Ll欧r Gwyn Lewis 10

5 Pennill ymson wrth greu playlist

Y Diwc (MH)
Anelu at gadw trefen.
atgyfodi dyddiau llawen.
Adlais fydd yn dwyn atgofion,
llunio lluniau’n hwb i’w chalon.
Creu dilyniant fydd yn gyfan.
Yr hen gloc yn dal i dician.
Torchaf lewys, cadw’n fishi,
Duw a 诺yr beth wnaf fi hebddi.
Tonau ysgawn dyddiau simsan,
tonau fydd yn troi’n alargan.

Martin Huws 9

Y Ffoaduriaid (GO)

Pa gerddoriaeth fyddai’n cuddio twrw’r dril sy’n dod o’r clinig,
a sgrechfeydd pob claf sy’n crefu am gael mwy o anathsetig?
Fe fyddai’n ddigon addas chwarae côr cerdd dant yn canu
ond hyn a hyn o artaith y gall unrhyw un ‘wynebu.

Gwennan Evans 9


Pan fyddai’n astudio
Martha, Jac a Sianco
y miwsig rwy’n dewis
yw Caryl a Lewys.

Pan drof i at Siwan
Mae (Gwenno) Saunders yn ddiddan

ac i’r Hengerdd rwy’n dewis
y gân Rheged i Paris.

Ni sylweddolais nes yr angladd
bod na CD one a two...
nid 'Gwahoddiad' di trac pedwar
ond blincing 'Mewn i'r arch â nhw!'

6 Can ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad) : Cosb

Y Diwc (GW)

Yn dwt wrth drws ffrynt ar y mat, roedd amlen frown hirsgwar yn fflat.
Yn blaen ar un gornel roedd gw欧s im ei hagor am gyngor, a gwnes just like that!

O’i mewn roedd pum dalen yn dwt. Darllenais y gynta’n ddi-ffrwt.
Agorodd fy llygaid yn fawr wrth i’m fferu, a chrynu fel sigl-i-gwt.

Roedd camera, un crwydrol y sir, ryw Sul wedi gweled yn glir
Ar lein ddwbwl felen, ‘di parcio yn gymen fy nghar. Mae’n amen – ydy wir.

Rôl darllen ymlaen a gweld wedyn bod clamp o ffein gostus i ddilyn,
Fe drois y dudalen a syllu yn syfrdan mor simsan y llun oedd gyferbyn.

Ces gyfle i roi’r DVLA am unwaith yn sownd yn ei le.
A dyma fy stori, dw i ddim yn caboli na sori, hip-hip-hip-hwrê.

Y camera oedd wedi gwneud fideo yn dangos mai nid y nghar i oedd o,
Y ffigurau i gyd yn gywir ond un, a fan wen yn y llun – nid y Volvo.

Gwilym Wyn Williams 8.5

Y Ffoaduriaid (GO)

Rydw i’n hunan gyflogedig, fel Iwan Rhys, Sion Corn a Duw,
a gallaf dystio fel gwnant hwyhau bod hi’n ffordd reit od o fyw.

Sgen i’m oriau gwaith gorfodol, dwi’m yn gorfod gwisgo siwt
Ac mae’r daith rhwng desg a gwely yn reit handi ran comiwt.

Ond mae na anfanteision, o weithio mi i fy hun.
Di’m yn orchwyl gymdeithasol, bod yn ffatri-llên un dyn.

Mae fy mhatrwm gwaith arferol yn debyg iawn i’r Cyfnod clo
ond efo mwy o angst dirfodol, a chydig llai o fynd am dro.

Mae’r holl fyd o flaen fy mysedd, tydi’r cwbwl ar y we?
Ond be dwi haws heb gael cwmpeini ffrind i’w roid o yn ei le?

Sgen i ‘run enaid call yn gwmni heblaw (weithiau) un o’r plant,
mae fwythnosau’n mwy meudwyaidd nag oedd grawys Dewi sant.

Tydi bywyd yn awdur llawrydd ddim fel parti caws gwin
mae o’n fwy o barti ‘tsiecio twitter’, ‘jaffa cakes’ a sertraline.

Ac wrth son am jaffa cecio – mae gweithio adra’n pesgi dyn
(dwi di cipio coron Cynan fatha prifardd tewa Ll欧n.)

Dyma’r gosb am weithio adra, dyma’r gosb am fod yn rhydd.
Dyma’r gosb am fyw y freuddwyd ‘freelance creative’ yng Nghaerdydd.

Dwi’n gwbod sgen i’m hawl i gwyno…tydwi’n lwcus iawn myn dyn
ond dwi’n reit unig a dwi’n ama nad ydw i ar ben fy hun.

Gruffudd Owen 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Nid yw o hyd yn beth da

Y Diwc

Nid yw o hyd yn beth da
I amau’r Meuryn yma

Gwilym Wyn Williams 0.5

Y Ffoaduriaid

Bydd yn ddiduedd,medda
Nid yw o hyd yn beth da

Gruffudd Owen

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Awyr Iach

Y Diwc (GW)

Edrychai’r ffenest dros yr ardd;
Y pridd yng nghlo fel cacen wedi’i chadw yn rhy hir,
A’r clawdd yn glasu’n bert lle dawnsiai sofren aur neu ddwy
I’r awel fain.
O dan y ffenest lychlyd, yn un rhes,
Y crogai pâl a hof a chribyn rhwd,
A rhwng y drws a’r ferfa, yn llawn dim ond gwe
Fe safai bocs
Y tatws had.

Roedd ffenest gefn y llofft ar agor
Led y pen
I ddrachtio’r gwin,
A chrawc y brain wrth blethu brigau’r nyth
Yn gwatwar.

Gwilym Wyn Williams 9

Y Ffoaduriaid (LlGL)

Jack Samuel, Gresffordd, Mawrth 1935

Y caneri fu farw gynta, ar
amrantiad. Yna syrthiodd
rhai o’r criw achub: bu raid cario un
dros ystolion duon tua’r tân tamp.
Hyd yn oed wedyn, yr unig beth
a’i cafodd i droi’n ôl yn y pen draw –
crafu drwy dwnel at wythien o oleuni,
dod fyny i’r wyneb dan lyncu’n ddwfn
a’u gadael nhw yno, yng nghwrcwd y duwch –

yw’r un un gred ag sy’n ei gynnal nawr
chwe mis ar ôl y ffaith: yr arswyd cnawdol,
braf, y deuent oll i’r fei ar ben y siafft
ddau gant a hanner ohonynt, r诺an hyn
yn gwenu a hergydio fel o’r blaen
pe gallai o ond rhoi yr hyn nad yw
o unrhyw ddefnydd bellach i’w celannedd cwyr:
eneiniad o awyr iach. Tra bo’r adwy dan sêl
gall ddal i weddio nad ydi o’n rhy hwyr.

Ll欧r Gwyn Lewis 9.5

9 Englyn: Nicola Sturgeon

Y Diwc (DRh)

Heliwr yr uwch-heolydd - yn erlid
Ar garlam ‘mhob tywydd;
Er trïo codi’r trywydd
Ildio rhaid heb weld yr hydd.

Dewi Rhisiart 9.5

Y Ffoaduriaid (GO)

I w欧r mawr, yr her yw morol eu grym,
dyna’u greddf wleidyddol.
Mae Nicola’n wahanol;
mae hi’n wers mewn camu’n ôl.

Gruffudd Owen 9.5