Main content

Cerddi Rownd 1 2023

1 Trydargerdd: Gwahoddiad

Tanau Tawe
Gwahoddiad i Dai Bach
Dodwch e mewn neu gadewch e mas - plîs,
Plîs, gwisgwch ag urddas;
Mynnyd hyn o gymwynas,
Dai, yw’r plan, cyn mynd i’r plas.

Keri Morgan 8

Y C诺ps (IBJ yn darllen gwaith Siarl III)
Gwahoddiad arbennig o Balas Buckingham i Dîm Talwrn y C诺ps
O achos y clywais ichi - gynnal
G诺yl o gân i mami,
Mawr licien eich gweld ‘leni
Yn dod i ‘nghoroniad i.

Iwan Bryn James 8.5


2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw ran o’r corff

Tanau Tawe

Edrych ble, o drwch blewyn,
Aeth clun y dyn heddiw’n dýn!

Keri Morgan 8

Y C诺ps

Ni ddaw’r rhaff o wddw’r iaith
O gyfri na thrwy gyfraith.

Huw Meirion Edwards 9

 3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n amlwg yn ôl y cyfrifon’

Tanau Tawe
Mae’n amlwg yn ôl y cyfrifon
Na wnes i ddatgelu enillion
Y Talwrn, ac ati,
Ond sa i wir yn poeni:
Cyfrifwyr Zahawi sy’n fodlon.

Elin Meek 8.5

Y C诺ps (IBJ)
Mae’n amlwg yn ôl y cyfrifon
Fod amryw yn mynd i ddyledion,
Ond gwenaf yn ddel
Wrth wneud elw swel,
Mae’n arian i’n Shell ac yn Chevron.

Iwan Bryn James 8

 4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Coel/Coelion

Tanau Tawe
Credai Cymry’r Oesoedd Canol fod y genedl yn ddisgynyddion i w欧r Caerdroia. ‘Ilion’ yw enw Caerdroia yn yr iaith Roeg.

A’i bryniau’n waliau Ilion
I lwyth hen, bu’r dalaith hon
Yn gaer i heniaith gwerin,
Hil y glaw na phlygai lin ;
Bu sawl Hector yn torri
A rhwygo’i holl greigiau hi,
A mawl llon o’u temlau llwyd
I’w Duw yno a daniwyd ..

Pa rai dynnodd geffyl pren
Iaith gorthrwm i’r cwm cymen?
O drumau Wysg i dir Môn
Breuhau mae waliau Ilion.

Robat Powel 9.5

Y C诺ps

Dau ar fainc un hydref hwyr,
Heibio fel mwg o babwyr
Yr aeth eu hafau’n un rhith,
Fel gwennol dros sofl gwenith.
Credent â ffydd cariadon
Ifanc, iach ar y fainc hon
Y dôi’n y cyffwrdd rhwng dau
Un wennol yn wanwynau.
A thra medrant, hudant hwy’n
Eu henaint eto wanwyn,
Gan alw eu gwenoliaid
Bob un i’w nyth heibio’n haid.

Huw Meirion Edwards 10

5 Pennill ymson ar lan camlas

Tanau Tawe
Pe gwyddai’r nafis chwysai gynt
Wrth naddu llwybr i’r Chwyldro
Mai rhyw le chwarae fyddai hwn,
A fydden nhw ‘di panso?

Elin Meek 8.5

Y C诺ps
Llif araf sydd gan amser
Yng nghuddfan ddistaw'r coed.
Bydd fory fel mae heddiw;
Mae heddiw fel erioed.
Ceir yma berffaith lonydd
Heb neb i godi st诺r
Pan luchiaf fy hen soffa
O'r golwg dan y d诺r.

Geraint Williams 9

 6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cwyn y Cefnogwyr

Tanau Tawe

Yr Ianc yw’r un enwoca’ ’mhob oes am wario’n hael,
Ni phoena am a gostith, does ffeinach g诺r i’w gael ;
Yn Lerpwl ac yn Chelsea fe brynodd ddoniau’r byd,
Clwb Wrecsam a achubodd, s诺n dathlu ymhob stryd!

Ond yma ar lan Tawe gwahanol ydyw’r hwyl,
Fe dynnwyd bleind a llenni, mae’n nos ddydd gwaith a g诺yl.
Ni roes yr Ianc friwsionyn i fwydo’r Elyrch gwyn,
Mae’u plu yn prysur dduo, pwll angau yw eu llyn.

Does gennyn ni ddim golwr, nac ôl-asgellwr chwaith,
Dim un rhif pedwar grymus, rhif pump, na chwech neu saith ;
Cyn hir bydd crits y Meithrin yn gwisgo’r siersi hon,
Neu’n ôl daw Alan Curtis yn hercian ar ei ffon.

Fe werthwyd Joe a Connor a sêr y Prem yn glau.
Ble’r aeth y miloedd lawer, a’r Alarch yn llesgáu,
I brynu jet bach newydd? Neu vintage Cadillac?
Ond gyrru Morris Minor o hyd mae’r Swansea Jac.

Am Messi ni ofynnwn, Neymar na Harry Kane,
Ond doler haeddiannol o gefn ei waled fên ;
Fel arall, rhaid ffarwelio, a chodwn yn y man
Ein punnoedd balch ein hunain o Sgeti a Phen-lan.

Robat Powel 9.5

Y C诺ps
Homage i Dafydd Morgan Lewis ar ei ymddeoliad o Dîm y C诺ps

“Mae’r Genedl gyfan, nid jyst y wal goch, yn torri’u calonnau, yn wylo yn groch!
Lle mae Dafydd Lewis, yr addfwynaf 诺r, ein cawr, ein proffwyd, ein trwbad诺r?”
Och! Peidiwch â’ch cwyno, mae’r bradwr ar stanc, aeth yn rhy bell, ildiodd i’w wanc.
Sut fuoch chi i gyd mor dwp ac mor ddall? Mae’r cliwiau’n ei ganu, yno’n ddi-ball.
Rhyw guddio tu ôl i Owain Glynd诺r, a ffalsio’n dragwyddol â’r Meuryn bid si诺r.
Roedd ganddo ei gas ar Orsedd ein Gwlad, dioddefodd ein cewri dan lach ei sarhad.
Fe yrrodd o Robyn fel lloeren i’r nen, a Myrddin i chwarae i Loegr, na sen.
Fe gogiodd ddilorni ei fêt Dafydd Êl, tra’n chwennych arglwyddiaeth, a’i eiriau fel mêl.
Ond roedd o’n dragwyddol yn troi at y Sais a chuddio fel sbïwr mewn blowsen a phais.
Ei gampwaith, (ni welwyd mo’r ddau mewn un llun), roedd o a Guto Harri, y ddau, yr un un.
A’i fod, fel y gwyddon ni, i Boris yn ffrind, fe folodd o hwnnw’n dragwyddol, nes mynd
I gwrdd â Theresa’n Nogellau rhyw dro a’r etholiad a ddeilliodd roddodd gyfle i Bo.
Fe dreuliodd o fisoedd rhwng Chequers a’r Foel, a chuddio ei lwybrau nes nad oedd unrhyw hoel
Ohono i’w weld, ond aeth yn rhy bell, ddilynodd o Boris hyd at fariau y gell.
Bu oedi’n cyhoeddi anrhydeddau Bo-Jo, nid achos rhyw Rwsiad, ond oherwydd Y Fo.
Ond methodd – a Guto – (sy’n profi y si) – a chael ei arglwyddiaeth a dyna i chi,
Pam nad oes bellach i Ddafydd ei le ... oni bai bod na hasta la vista yn de?
1 munud 39.88 eiliad

Arwel Jones (Rocet) 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd: Y mae ffws am U.F.O

Tanau Tawe
Y mae ffws am U.F.O
Hwn yw byji a’i Bojo

Robat Powel

Y C诺ps

Y mae ffws am U.F.O
Ai bal诺n sy’n ei blino

Huw Meirion Edwards 0.5

 8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Tywys

Tanau Tawe

Pan o’wn i’n grwtyn dwyflwydd
Yn cwrso dros y lle,
A Mam am siopa dillad Pasg
Ac eisie mynd i’r dre,
Roedd ganddi ‘rains’ i’n nal i nôl
Yn lle fy nghario yn ei chôl.

Yn ddounaw, ac am gwrso
Rhyw glatsien bert o’r Waun,
Doedd dim i ‘nhywys na ‘nal nôl
A swagrwn megis paun.
Ond rhyfedd iawn yw meddwl dyn
Sy’n dilyn merch â’i ‘rains’ ei hun.

A rhyw ddydd, pan ddaw’r galw,
Daw un mewn siwt smart, ddu,
I’m harwain i gan bwyll am dro,
Ac af heb air na su.
Heb angen ‘rains’ nac annog, ‘chwaith,
Fy nhywys gaf ar newydd daith.

Keri Morgan 9

Y C诺ps

Ffordd hyn mae’r llwybr
hwn yn fwdlyd
braidd, dwi’n sori,
ond sbïa ar y
caeau hyn, y nant
sydd wrth dy draed, y
mymryn coediach sy’n
ein haros fan’cw : y
cysgodion a’r sibrydion
lle mae’r adar – ydyn,
clyw – lle mae’r adar
hwythau’n dal i ganu, ond
lle mae’r byd rhyw fymryn
yn dywyllach hefyd
ffordd hyn mae’r llwybr
hwn yn fwdlyd

braidd, dwi’n sori,
ond sbïa ar y

caeau hyn, y nant
sydd wrth dy draed, y

mymryn coediach sy’n
ein haros fan’cw : y

cysgodion a’r sibrydion
lle mae’r adar – ydyn,

clyw – lle mae’r adar
hwythau’n dal i ganu, ond

lle mae’r byd rhyw fymryn
yn dywyllach hefyd.

Dafydd John Pritchard 9

9 Englyn: Adnod

Tanau Tawe

Unwaith bu hi’n fy mhoeni – hyd salwch
Cyn dôi Sul yr holi,
Yn awr, a’m haul yn oeri,
Mae hon fel moddion i mi.

Robat Powel 10

Y C诺ps

Ynof fi deil eto’n fyw - hyn o fawl,
Brawddeg fer a hyglyw;
Sail hudol hen Sul ydyw
Yn dweud mai ein Cariad yw.

Iwan Bryn James 9.5