| |
|
|
|
| | | |
Achos y Cwrwgl |
|
© Y Ganolfan Cwrwgl Genedlaethol, Cenarth | Mae angen gorchudd o ddefnydd naturiol gwrth-ddwr ar ffrâm bren y cwrwgl, ac roedd crwyn anifeiliaid yn ddewis amlwg. Mae'n rhaid i'r ffrâm fod yn ddigon cryf i ddal pwysau person ond eto'n ddigon ysgafn i un dyn allu ei gario nifer o filltiroedd. Roedd yn rhaid iddo hefyd fod yn ddigon bach i un croen anifail ei orchuddio. Crwyn gwartheg neu ych gâi eu defnyddio'n fwyaf aml ac roedd y crwyn yn cael eu clymu i'r ffrâm â rhaff wedi ei gwneud o wallt neu stribedi o ledr oedd wedi eu gwneud yn wrth-ddwr gan saim o'r un anifail.
Mae'r rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain yn dysgu bod cyryglau yma adeg y goresgyniad Rhufeinig. Ond mae yna dystiolaeth ysgrifenedig bod cyryglau wedi eu gwneud a'u defnyddio yn yr Ynysoedd Prydeinig ers yr Oes Efydd ac yn wir efallai eu bod yn dyddio o'r Oes Ia ddiwethaf.
Mae'n debyg bod y cyryglau cynharaf a symlaf yn grwn neu'n hirgrwn. Mae siapiau cyryglau wedi newid i weddu i nodweddion gwahanol afonydd a defnydd y cychod. Mae cwrwgl ar afon sy'n llifo'n gyflym yn perfformio'n wahanol i un mewn dyfroedd tawel sy'n llifo'n araf, ac mae'r angen i gario nwyddau i lawr yr afon yn gofyn am strwythur gwahanol i un a ddefnyddir i bysgota.
Words: Martin Fowler
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|