|  |
 |
 |
 |
 |  |
 © Y Ganolfan Cwrwgl Genedlaethol, Cenarth
|
|  |  |
Achos y Cwrwgl |
 |
Yn ystod y 1930'au penderfynodd awdurdodau'r afonydd y byddai pysgota fel camp yn fwy proffidiol pe na byddai rhwydi ar rannau di-lanw afonydd Gorllewin Cymru. Yr adeg hon roedd trwydded yn para am oes i'r daliwr, a gallai gael ei throsglwyddo o dad i fab. Wrth i bob deiliad farw, câi'r trwyddedau yma eu diddymu, ond byddai'n cymryd 40 mlynedd i glirio'r pysgotwyr a'u rhwydi o dyfroedd uchaf yr afonydd hyn.
Heddiw mae yna nifer o gyfyngiadau ar bysgotwyr cwrwgl: dim ond 12 trwydded sy'n cael eu rhoi bob tymor i bysgota rhannau llanwol y Teifi; caiff 12 eu rhoi ar gyfer afon Tywi; a dim ond un pâr trwyddedig gaiff bysgota'r afon Taf o San Clêr. Mae'r tymor ar bob afon yn cael ei gyfyngu i bum mis - rhwng Ebrill ac Awst.
 © Y Ganolfan Cwrwgl Genedlaethol, Cenarth | Am nifer o resymau mae'r nifer o eogiaid sy'n cyrraedd afonydd Cymru wedi gostwng yn ddramatig dros y 30 mlynedd ddiwethaf. Dim ond yr ychydig bysgotwyr dygn sy'n pysgota'r Teifi, Tywi a'r Taf sy'n gallu cadw'r dull hynafol hwn o bysgota'n fyw, a chaiff ei arfer heddiw yn bennaf i roi mwynhad yn hytrach nag fel modd i ennill bywoliaeth.
Mae gwneud cyryglau yn y modd traddodiadol hefyd yn grefft sy'n marw yng Nghymru. Ond mae yna gryn ddiddordeb yn y grefft, fel y tystia'r cannoedd o bobl sy'n ymweld â'r Regata Cyryglau flynyddol yng Nghilgerran bob Mis Awst. Mae'r digwyddiad hwn wedi ei lwyfannu ers dros 50 mlynedd ac mae'n cynnwys prynhawn llawn o rasys, arddangosfeydd a thrafod y cyryglau, yn cynnwys plant a gwragedd, yn ogystal â'r cyryglwyr.
Mae yna gasgliad o gyryglau o bedwar ban byd i'w gweld yn y Ganolfan Cwrwgl Genedlaethol yng Nghenarth. Fodd bynnag, fe fyddai'n drueni petai'r grefft arbennig a hynafol hon un diwrnod ddim ond yn cael ei gweld fel arteffact mewn amgueddfa.
Mae’n rhaid i'r grefft o wneud a physgota cwrwgl gael ei gadw ar afonydd Gorllewin Cymru cyn iddyn nhw ddod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.
Words: Martin Fowler
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|