| |
|
|
|
| | | |
Achos y Cwrwgl |
|
© Y Ganolfan Cwrwgl Genedlaethol, Cenarth | Cyn i drwyddedu gael ei gyflwyno yn ail hanner y 19eg Ganrif, byddai nifer o gartrefi yn defnyddio cwrwgl i ddal pysgod er mwyn bwydo'r teulu. Byddai deiet y fath gartrefi yn dibynnu'n helaeth iawn ar bysgod wedi eu dal yn lleol.
Ar unrhyw amser penodol, dim ond ychydig iawn o wneuthurwyr cyryglau fyddai'n bodoli, ac fe fyddai'r rhain wedi cynhyrchu nifer o fframiau cyryglau bob tymor. Câi'r defnyddiau angenrheidiol eu casglu gan y pysgotwr a'i deulu yn aml iawn, a fyddai wedyn yn gorchuddio'r fframiau gorffenedig.
Ym 1863, achosodd cyflwyniad tâl trwydded ddrud i'r nifer o gyryglau a wnaed ac a ddefnyddiwyd ar afonydd Gorllewin Cymru i leihau'n sylweddol ar ôl yr adeg yma. Cyn hyn, amcangyfrifwyd bod dros 300 o gyryglau'n pysgota ar yr Afon Teifi'n unig.
Er i'r tâl am y drwydded achosi i nifer roi terfyn ar eu pysgota, roedd y nifer fawr o eogiaid oedd yn dychwelyd i afonydd yng Ngorllewin Cymru yn golygu bod y pysgotwyr cwrwgl a barhaodd i wneud hynny yn gallu ennill bywoliaeth deg trwy anfon llwythi sylweddol o bysgod i'r marchnadoedd yng Nghaerdydd a Llundain ar y rheilffyrdd.
Achosodd cyflwyno'r trwyddedau hefyd i'r nifer o bysgod a gymrwyd o'r afon trwy ddulliau anghyfreithlon godi, a daeth hyn yn waith llawn amser i rai teuluoedd; mae'r storïau am botsieriaid a chiperiaid afon yn ddiddiwedd.
Words: Martin Fowler
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|