| |
|
|
|
| |
Coal trains were often kept waiting at the dock © BHAC [Butetown History and Arts Centre]
|
| | |
Genedigaeth Y Barri - Pan roedd Glo yn Frenin |
|
Cafodd Rheilffordd y Bari ei hyrwyddo gan ei gwsmeriaid, perchnogion glo y Rhondda, fel modd i ddarparu cludiant ar gyfer eu masnach oedd yn dal i dyfu, a oedd yn elfen bwysig yn ffyniant glo yn ystod 1890 - 1914. Roedd yn lwyddiant fel menter busnes ar unwaith a chafodd ail ddoc ei agor ym 1898. Y flwyddyn ganlynol cafodd y doc ei ddefnyddio gan 3,000 o longau a bu'n trafod 7 miliwn tunnell o lo ac, erbyn 1913, roedd cyfanswm y trafnidiaeth a'i ddefnyddiai wedi codi i 4,000 o longau ac 11 miliwn tunnell o lo.
© Barryaxis.org.uk | Cyflawnwyd y twf hwn, i ryw raddau, gan adeiladu llinellau newydd ei hun, yn fwyaf arbennig i Gwm Rhymni ac i mewn i Gaerdydd; hefyd trwy gynghreirio gyda Rheilffordd Bro Morgannwg, oedd yn rhedeg i Ben-y-Bont ar Ogwr a Tondu; ac, yn bwysicaf oll, trwy sicrhau hawliau rhedeg dros linellau cwmnïau eraill. Cafodd ei helpu hefyd gan y prisiau cystadleuol roedd yn gallu eu cynnig, o ganlyniad i'r ffaith ei fod yn fusnes dociau a rheilffordd wedi ei integreiddio. Er hynny, doedd ei ddatblygiad ddim yn hawdd oherwydd fe ymosodwyd arno’n barhaus gan Ddyffryn Taf ac eraill, trwy gyfreithiad a phrisio a marchnata ymosodol. Mae ei lyfrau cofnodion yn sôn am wrthwynebiad i'w gynlluniau, yn ogystal â'i wrthwynebiad ei hun i gynlluniau mentrau rheilffyrdd a dociau eraill.
Words: Richard Watson
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|