| |
|
|
|
| |
© welshcoalmines.co.uk
|
| | |
Genedigaeth Y Barri - Pan roedd Glo yn Frenin |
|
Sefydlu Porthladd y Barri a Chwmni Rheilffordd y Barri
Rhwng 1870 a 1880, bu i lwythi glo ar longau a âi drwy Gaerdydd ddyblu bron, o 3,246 i 5,856 tunnell, gyda mwy a mwy yn dod o Gymoedd y Rhondda. Ond daeth cyflymder y twf â phroblemau dybryd mewn trafnidiaeth a chynhwysedd y doc. Câi glo ei symud yn barhaol o'r talcenni glo i wageni rheilffordd ac yna i'r porthladd, lle câi llongau eu llwytho ger glanfeydd glo arbenigol. Oherwydd y llanw a'r ffordd ar hap y byddai llongau'n cyrraedd, roedd trenau glo yn cael eu cadw i aros yn y dociau, gan arwain at adeiladu cilffyrdd helaeth i'w cadw. Roedd yr oedi mewn cludo glo yn golygu bod y perchnogion glo yn colli arian refeniw ac yn wynebu costau cynyddol.
© welshcoalmines.co.uk | Cafodd perchnogion glo y Rhondda ddadleuon gyda Rheilffordd Dyffryn Taf, a gariai eu glo i Gaerdydd a Phenarth, a gyda dociau Bute, dros dâl cludiant a thagfeydd. Roedden nhw'n cwyno am oedi wrth fynd â'r glo i'r porthladd, wrth lwytho'r cargo, wrth gael y cychod i mewn ac allan o'r dociau yn yr amser byrraf posibl ac wrth ddychwelyd tryciau'r glofeydd yn brydlon. Yn ogystal at hyn roedd Ymddiriedolwyr Bute a'r Ardalydd ei hun wedi troi'n wyliadwrus yn y 1870au ac, er eu bod wedi sicrhau sêl bendith y Senedd ar gyfer Doc y Rhath ym 1874, wnaethon nhw ddim fwrw mlaen â'r cynllun. Felly rhwng 1870 ac 1880, er bod allforion glo wedi dyblu bron, cynyddwyd nifer y glanfeydd glo yng Nghaerdydd a Phenarth o 62 i 66.
Words: Richard Watson
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|