| |
|
|
|
| | | |
Genedigaeth Y Barri - Pan roedd Glo yn Frenin |
|
© Park IT Consultancy | Daeth yr anghydfod i ben ym 1882 pan benderfynodd Ymddiriedolwyr Bute yn y pen draw i gario mlaen ag adeiladu Doc y Rhath. Yr un pryd fe gynigion nhw ychwanegiad o 1c y dunnell i holl lwythi Doc Bute ar gyfer 'gwasanaethau rhad'. Yna penderfynodd perchnogion glo y Rhondda adeiladu eu doc a'u rheilffordd integredig eu hunain. Cawsant eu harwain gan David Davies, un o ffigurau mwyaf blaenllaw datblygiad diwydiannol Cymru. Yn enedigol o Landinam, Sir Drefaldwyn, ei fentrau cyntaf oedd adeiladu rheilffyrdd, yn bennaf yng Nghanolbarth Cymru, cyn symud i'r busnes glo a sefydlu'r Ocean Company.
Roedd hyrwyddwyr y rheilffordd yn cynnwys holl berchnogion blaenllaw glofeydd Cymoedd y Rhondda. Fe archwilion nhw morydiau'r Bari ac Ogwr fel dewisiadau posibl cyn penderfynu adeiladu eu doc newydd yn y Barri. Fe gyflwynon nhw eu Bil Doc a Rheilffordd y Barri yn ystod sesiwn seneddol 1883. Cafodd ei drechu, yn bennaf oherwydd gwrthwynebiad gan Ddociau'r Barri a Rheilffordd Dyffryn Taf ond cafodd ei basio yn y sesiwn nesaf a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 14 Awst 1884. Roedd wedi costio £70,000 i'r hyrwyddwyr.
Words: Richard Watson
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|