| |
|
|
|
| | | |
Genedigaeth Y Barri - Pan roedd Glo yn Frenin |
|
Yn wreiddiol cafodd ei enwi'n Gwmni Dociau a Rheilffordd y Bari, cafodd enw'r cwmni ei newid i Gwmni Rheilffordd y Barri ym 1891. Yr Arglwydd Windsor, a grëwyd yn Iarll Plymouth ym 1905, ac a oedd yn berchen ar lawer o'r tir yn y Barri, oedd y cadeirydd a David Davies, y dirprwy gadeirydd, oedd i bob diben yn brif weithredwr.
© Barryaxis.org.uk | Cafodd y rheilffordd ei chwblhau ym 1888. Roedd y brif lein o Drehafod i'r Barri yn 18.5 milltir o hyd gydag ychydig ganghennau bychain, a phwerau rhedeg dros linellau eraill. Erbyn 1922, pan gafodd ei uno gyda'r Great Western roedd iddi 68 milltir o lwybrau teithio a phwerau rhedeg sylweddol. Yn ogystal â glo, roedd hefyd yn rhedeg gwasanaeth i deithwyr maestrefol, gan gynnwys trafnidiaeth gwyliau i Ynys y Barri, y cyrchfan a roddodd fodolaeth iddo, ac am amser byr, stemars Môr Hafren.
Roedd y doc yn y Bari yn cynnwys 73 erw a chyfanswm cost y prosiect gwreiddiol oed £2 miliwn. Cafodd y dywarchen gyntaf ei thorri gan yr Arglwydd Windsor ar 14 Tachwedd 1884. Cafodd dwr ei ollwng i mewn i'r doc ar 19 Mehefin 1889, gyda'r agoriad seremonïol a'r dathliadau yn cael eu cynnal ar 18 Gorffennaf 1889, gyda dwy fil o westeion yn bresennol. Arweiniwyd y seremoni gan David Davies, gan na allai'r Arglwyddes Windsor, a oedd i fod i agor y doc, fod yn bresennol.
Words: Richard Watson
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|