| |
|
|
|
| | | |
Syr Richard Clough - ‘Y Gðr Mwyaf Cyflawn’ |
|
Catrin o Ferain
Dywedir bod y loced mae’n ei gwisgo am ei gwddf yn cynnwys cudyn o wallt Syr Richard Clough © Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru | Does dim llawer yn hysbys am yr hyn a ddigwyddodd i wraig gyntaf Richard, ond ar ôl carwriaeth fer, daeth Richard yn ail wr i Catrin o Ferain (a aned Catrin Tewdwr, 1534-1591), wyres Harri'r seithfed ac ail gyfnither i'r Frenhines Elizabeth. Yn ddiweddarach galwyd Catrin yn 'Mam Cymru', oherwydd ei disgynyddion niferus.
Yn y pen draw priododd Catrin bedair gwaith,- bob tro i ddynion dylanwadol mewn materion Cymreig, ac aeth ei chwe phlentyn ymlaen i sefydlu sawl llinach o'r dosbarthiadau uchaf yng Nghymru. Mae nifer o straeon ar gael ynglyn â'i phriodasau niferus, mae un stori'n dweud ei bod wedi cael chwe gðr, a'i bod wedi lladd pump ohonyn nhw trwy arllwys plwm tawdd yn eu clustiau wrth iddyn nhw gysgu, nes i'r chweched ei chadw'n gaeth a'i llwgu i farwolaeth.
Doedd y ffaith bod Catrin wedi cael nifer o wyr ddim yn anghyffredin yn oes Elizabeth, gan fod gofalu am barhad etifeddiaeth teuluol yn dibynnu'n llwyr ar sefydliad y briodas a'r etifeddion uniongyrchol y byddai'n ei gynhyrchu. Cafodd enw da'r teulu ei gynnal trwy drefnu'r priodasau mwyaf proffidiol, a oedd, yn y bôn, yn gytundeb busnes.
Byddai wedi bod o fudd i Richard i briodi'n dda, a'r traddodiad oedd y dylai gymryd y cyfle i sicrhau Catrin fel ei briod ar y ffordd i angladd ei gwr cyntaf. Roedd tipyn o alw ar Catrin y diwrnod hwnnw, gan iddi wrthod cynnig gan Morris Wynne o Geydir ar ôl y seremoni, gan addo iddo y câi fod yn drydydd gðr iddi, petai Syr Richard yn marw, a dyna'n wir a ddigwyddodd.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|