|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Syr Richard Clough - ‘Y Gðr Mwyaf Cyflawn’ |
 |
Y Gyfnewidfa Frenhinol
Ym Mis Rhagfyr 1561, ysgrifennodd Clough at Gresham yn awgrymu y dylid adeiladu cyfnewidfa i fasnachwyr yn Llundain, tebyg i'r 'Bourse' yn Antwerp, gan fod masnachwyr tramor a Saesnig yn aml yn gorfod cynnal eu busnes mewn stryd gul, yn agored i'r elfennau drwy gydol y flwyddyn.
Daeth Clough yn ddadleuwr brwd dros yr adeilad, yn cyfrannu symiau sylweddol tuag at ei adeiladu. Ym 1565 penododd y pensaer Ffleminaidd, Hendrik van Passe, i gynllunio'r gyfnewidfa, a chafodd y rhan fwyaf o'r defnyddiau a'r saernïaeth eu mewnforio o Antwerp o dan ei oruchwyliaeth ef ei hun.
Er mai Clough oedd biau'r awgrym am gyfrnewidfa, Gresham sy'n cael y clod am sefydlu Adeilad y Gyfnewidfa Frenhinol, a elwodd gryn dipyn o'r rhent am y siopau uwchben y gyfnewidfa pan agorodd ym 1571, flwyddyn ar ôl i Richard farw.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|