|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Syr Richard Clough - ‘Y Gðr Mwyaf Cyflawn’ |
 |
Bach-y-graig a Plas Clough
 © Llyfrgell Genedlaethol Cymru | Dychwelodd Richard i Gymru ym Mis Ebrill 1567, i briodi ac i adeiladu dau dy yn ei Sir Ddinbych frodorol. Mae'r digwyddiadau hyn yn nodedig, y cyntaf oherwydd ei wraig newydd - Catrin o Ferain, a'r ail oherwydd bod ei dai wedi eu hadeiladu yn arddull Antewrp gan grefftwyr Ffleminaidd, a'r rhain oedd y tai cyntaf yng Nghymru i'w hadeiladu o friciau.
Roedd y ddau dy yn fawr eu maint, ac yn cyflwyno ffurfiau cymesur, a thalcenni grisiog, a ddaeth yn boblogaidd yng Ngogledd Ewrop, ac, o bosibl, fe gawson nhw'u cynllunio gan yr un pensaer ag a gynlluniodd y Gyfnewidfa Frenhinol. Roedd Bach-y-graig 'mor estron i draddodiad Cymreig a datblygiad y Dadeni yn Lloegr, fel eu bod yn unigryw mewn pensaernïaeth cartrefi Saesnig.' Roedd y ty ar amserlen pob ymwelydd ffasiynol â Gogledd Cymru, ac ym 1774 disgrifiodd Dr Johnson ef, yn nodweddiadol iawn, fel 'llai nag a ddisgwyliwn'.
Roedd adeiladu'r fath adeiladau newydd ac anarferol wedi tynnu cryn sylw ac achosi drwgdybiaeth yn lleol. Mae nifer o chwedlau bellach wedi dod yn rhan o goel gwlad, un yn dweud bod Bach y Graig wedi ei godi mor gyflym nes bod y bobl leol yn credu ei fod yn waith y diafol. Mae chwedl arall yn dweud pan fyddai'r adeiladwyr yn rhedeg allan o friciau, byddai llwyth newydd yn ymddangos fel petai trwy hud a lledrith erbyn y bore wedyn ar lan y nant a elwir hyd heddiw yn Nant-y-Cythral. Mewn gwirionedd, mae'n bosib bod defnyddiau ar gyfer y briciau wedi eu cloddio a'u llosgi ar y safle, neu eu bod wedi eu mewnforio o'r Iseldiroedd, fel y briciau ar gyfer y Gyfnewidfa Frenhinol.
Rhoddodd ystafell ddi-ffenestr ym mhen ucha'r ty fodolaeth i fwy o chwedlau - mae traddodiad poblogaidd yn mynnu iddi gael ei hadeiladu'n arbennig er mwyn i Clough gyfathrebu â Satan ynddi, allan o olwg pawb daearol! Roedd eu trafodaethau, (bob amser am hanner nos) yn ymwneud â chodi'r eiddo, gyda Satan yn gontractwr, i'r hwn roedd Clough wedi gwerthu ei enaid.
Mewn gwirionedd roedd Clough yn seryddwr brwd, ac fe gredir ei fod yn defnyddio'r ystafell hon i wneud arsylwadau, gan gyfrannu at waith ei gyfaill, Ortelius, Cartograffydd o Hamburg, a gynlluniodd fapiau ar gyfer morlyw-wyr y16eg ganrif. Roedd Clough yn ganolwr gwerthfawr rhwng Ortelius a'r daearyddwr, yr hanesydd a'r hynafiaethydd o Ddinbych, Humphrey Llwyd, a'i galwodd 'y dyn mwyaf cyflawn'.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|