成人快手

Llywodraethwyr yn gadael ysgol lle bu Neil Foden yn bennaeth

Neil Foden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neil Foden yn wynebu carchar ar 么l ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae dau o lywodraethwyr ysgol, oedd 芒 phennaeth a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant, wedi camu i lawr.

Cafodd Neil Foden, cyn-bennaeth Ysgol Friars ym Mangor, ei ganfod yn euog o 19 o gyhuddiadau yn gynharach yn y mis.

Mewn datganiad, cadarnhaodd Cyngor Gwynedd bod "Mr Essi Ahari, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Friars a Mr Keith Horton, Dirprwy Gadeirydd, wedi camu i lawr ar unwaith".

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym wedi diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth i'r ysgol.

"Mae swyddogion adran addysg y cyngor yn parhau i gefnogi bwrdd y llywodraethwyr gyda'u gwaith, yn enwedig wrth iddyn nhw ddewis cadeirydd a dirprwy gadeirydd newydd."

Cafwyd Foden yn euog o 12 achos o weithred rhyw gyda phlentyn a dau achos o weithred rhyw gyda phlentyn tra mewn safle o gyfrifoldeb.

Cafwyd hefyd yn euog o ymosod yn rhywiol ar blentyn, achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred ryw, ceisio trefnu gweithred ryw gyda phlentyn, cyfathrebu'n rhywiol 芒 phlentyn a bod 芒 lluniau anweddus o blentyn yn ei feddiant.

Does dim awgrym bod y ddau lywodraethwr wedi eu cysylltu neu'n ymwybodol o ymddygiad Foden.

Ymunodd Foden ag Ysgol Friars fel dirprwy bennaeth yn 1989 cyn dod yn bennaeth yn 1997.

Roedd hefyd yn bennaeth strategol ar Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.

Roedd wedi gwadu'r holl gyhuddiadau yn Llys y Goron Yr Wyddgrug gan honni nad oedd wedi cael unrhyw gysylltiad corfforol gyda'r merched.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands ei fod yn bryderus, pan gafodd pryderon eu codi i Gyngor Gwynedd am Foden am y tro cyntaf yn 2019 gan uwch aelod o staff, "eu bod wedi cael eu diystyru".

"Ni chynhaliwyd ymchwiliad, ni chymerwyd sylw o鈥檙 hyn a gafodd ei ddweud a'i wneud," meddai.

"Nawr rydyn ni鈥檔 gwybod eich bod chi wedi parhau i droseddu, mae hynny'n peri pryder mawr."

Yn dilyn yr achos dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi eu "brawychu gan natur y troseddau a gyflawnwyd".

鈥淣awr fod y broses droseddol wedi dod i ben, bydd y gwaith o adolygu a sefydlu pa wersi sydd i鈥檞 dysgu o鈥檙 achos yn dechrau.

"Oherwydd natur ddifrifol yr achos, mae penderfyniad wedi ei wneud i gynnal adolygiad annibynnol yn unol 芒 chanllawiau Adolygu Ymarfer Plant cenedlaethol.

"Mae union ffurf yr adolygiad hwnnw yn derbyn sylw ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig