成人快手

Neil Foden: Y bwli o brifathro a fu'n codi ofn am ddegawdau

Neil Foden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin merched yn rhywiol

  • Cyhoeddwyd

Mae Neil Foden - a oedd ar un adeg yn cael ei ystyried yn un o arweinwyr addysg fwyaf blaengar Cymru - yn wynebu blynyddoedd o garchar am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Tydi bod yn y penawdau ddim yn ddiarth i'r cyn-brifathro.

Bu'n ganolbwynt straeon dadleuol 鈥 o ymddygiad proffesiynol annerbyniol mewn achosion bwlio staff, i atal cinio i ddisgyblion 芒 chyfrifon gwag.

Roedd yn ffigwr amlwg ym myd addysg yn lleol ac yn genedlaethol, yn aelod gweithredol Undeb Athrawon yr NEU am gyfnod ac un oedd 芒 dylanwad yng nghoridorau p诺er byd addysg Cymru.

Ond tu 么l i fwgwd y pennaeth hyderus a chyhoeddus, roedd cyfrinachau tywyll yn cuddio.

Yma, mae rhai o'r bobl sydd wedi dioddef dan ei law 鈥 yn ystod ei bedwar degawd ym myd addysg - yn siarad yn gyhoeddus efo fi am y tro cyntaf.

'Bwli o鈥檙 math gwaethaf'

Roedd Morfudd Mill, 67, yn athrawes fathemateg yn Ysgol Friars am bron i 30 mlynedd.

Mae hi'n honni fod Neil Foden wedi cynllwynio yn ei herbyn am flynyddoedd.

"Unwaith mae Neil Foden yn gwthio'i ffordd i fewn i'ch bywyd chi, 'neith o ddim gollwng," meddai.

"Mae o'n meddianu'ch bywyd chi. Does gan neb yr hawl i wneud hynny. Neb."

Fe ddisgrifiodd Ms Mill y cyn-brifathro fel "bwli o'r math gwaethaf聽fedrith unrhywun ddychmygu".

Disgrifiad,

Cyn-athrawes yn Ysgol Friars, Morfudd Mill, yn dweud ei bod yn edmygu'r merched a wnaeth siarad

Mi gafodd ei聽diswyddo ddwywaith gan Foden.

Er iddi聽ennill ap锚l聽a chael mynd yn 么l i鈥檙 ysgol,聽mi聽ymddiswyddodd聽yn 2009 am fod y pennaeth, meddai,聽wedi gwneud ei bywyd yn uffern.

Yn ystod y blynyddoedd wedi hynny, mi aeth i deimlo'n isel, gan geisio, unwaith, roi diwedd i'w bywyd -聽nes i聽ffrind ei hachub.

"I fod聽yn onest nes i roi'r gorau i'r yrfa o'n i'n ei charu ac oedd yn fy nghynnal i o ran fy iechyd meddwl.

"'Swn i 'di aros yna faswn i ddim yma'n siarad efo chi 'wan."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Morfudd Mill yn gweithio'n Ysgol Friars, Bangor rhwng 1980 a 2009

Er iddi adael Ysgol Friars yn 2009, yn 2011 mi gafodd Ms Mill gerydd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru am wagio bag disgybl a tharo ei braich.

Dywedodd聽y聽pwyllgor,聽ar聽y pryd,聽eu聽bod聽yn fodlon聽nad聽oedd hi wedi gwneud hynny鈥檔 fwriadol.

Mi聽gafodd聽gerydd聽hefyd聽am聽herio聽cyfarwyddiadau Neil Foden drwy adael yr ysgol yn ei char un p'nawn yr un pryd 芒'r disgyblion. Roedd yr athrawon i fod聽i aros tan fod pawb wedi gadael.

"Dwi聽wedi colli popeth. Dwi hyd yn oed wedi colli fy nheulu er mwyn diogelu nhw dros y blynyddoedd diwetha' - ac yn sgil y cyhuddiadau diweddar 'ma, dwi'n hynod falch 'cos dwi ddim yn meddwl basa'r dyn 'ma wedi stopio'n nunlla."

Yn ystod yr achos mae'r llys wedi clywed tystiolaeth ddirdynnol am droseddau rhyw yn erbyn plant.

Mae'r hanes wedi ysgwyd y gymuned addysg a'r gymuned yn ehangach - yng Ngwynedd a thu hwnt.

Dywedodd Morfudd Mill: "Nes i 'rioed yn fy myw meddwl basa fo'n gallu 'neud hynny.

"Oedd o'n dad, oedd o'n brifathro. Sut oedd o'n gallu? O'n i'n methu'n glir 芒 chredu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun artist o Neil Foden yn ystod yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Yn ogystal 芒'r manylion dirdynnol ddaeth i鈥檙 golwg,聽mae'r achos llys hefyd wedi codi cwestiynau.

Clywodd聽y llys fod yna boeni am ymddygiad Neil Foden gyda rhai merched ifanc n么l yn 2019.

Ond doedd dim angen ymchwiliad pellach, meddai Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson.

Mae swyddogion undeb, athrawon a rhieni wedi dweud wrth y 成人快手 eu bod nhw wedi codi pryderon gyda'r聽awdurdodau dros y blynyddoedd -聽ond聽doedd neb, medden nhw, yn gwrando.

Yn 么l Ms Mill, roedd criw yr oedd hi'n ei adnabod wedi cyflwyno'u hofnau am Neil Foden i sawl聽awdurdod, ond ddigwyddodd ddim byd.

"Mae o wedi cael ei alluogi i gario 'mlaen. Mae 'na bobl wedi trio dod 芒 chwynion yn ei erbyn o ac maen nhw wedi cael eu hanwybyddu," meddai.

"Dim fo ydy'r unig un sy'n euog, mae'r rheiny sydd wedi galluogi fo ar hyd y blynyddoedd yn fwy euog byth achos maen nhw'n ymwybodol o be' oedd o.鈥

Mae stori Morfudd yn rhan o'r jig-so, ac mae ganddi neges i'r merched ifanc fagodd y nerth i godi eu lleisiau: "Baswn i jyst yn hoffi gyrru neges iddyn nhw.

"Dwi'n eich edmygu chi, 'da chi mor ddewr a dwi ond yn gobeithio fedra nhw roi hwn tu cefn iddyn nhw ac edrych tua'r gorwel a byw bywyd llawn a hapus."

'Get away efo gymaint'

Yn 么l cyn-aelod arall o staff Ysgol Friars, oedd ddim am i ni ddefnyddio ei henw: "Ro'dd o'n berson o'dd yn licio lluchio'i bwysa o gwmpas. O'dd o'n licio awdurdod. O'dd o'n licio'r persona 'ma o'dd o am ei roi allan.

"Mi oedd 'na ymdeimlad o ofn 'swn i鈥檔 deud ymysg y staff, ag oedd 'na ryw fath o anesmwythder.

"Oedd rhywun yn teimlo os tasa chi'n sefyll yn gryf a deud eich barn am 'wbath oedd, efallai, yn mynd yn groes i'r weledigaeth oedd ganddo fo, neu'r ffordd yr oedd o isio gweithredu, fyddai hi ddim yn dda arnoch chi."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Neil Foden wedi gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Roedd ei bersona cyhoeddus yn ei bortreadu fel prifathro cadarn ac arweinydd undeb hyderus. Anaml y byddai'r mwgwd yn llithro, heb law am ambell bennawd dadleuol.

Fis Medi 2020, mi gafwyd o'n euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn dilyn honiadau o fwlio staff.

Yna, o fewn yr un mis, mi gafodd ei benodi yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle.

Yn Nhachwedd 2021, mi oedd 'na ymateb chwyrn i lythyr yr oedd o wedi ei anfon at rieni'n awgrymu na fyddai plant mewn dyled cinio ysgol yn cael eu bwydo.

Ym mis Chwefror 2022 cafodd fideo dadleuol ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn honni ei fod o wedi cydio mewn disgybl.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Geraint Edwards fod Neil Foden yn "frwnt" ac yn "fwli"

Roedd Neil Foden yn athro ar Geraint Edwards o Fethesda yng nghanol yr 1980au yn Ysgol Dyffryn Ogwen.

"Brwnt oedd o sdi. Bwli 'de.聽Oedd o wedi cael get away efo gymaint o betha'," meddai.

"Oedd gan yr athrawon eraill ei ofn o hefyd. Dodda' nhw ddim yn stepio fyny i dd'eud dim byd.

"Fydda fo'n gafael yna chdi yn erbyn dy wddwf di a rhoi chdi ar ben wal 'de.

"Oedd o jyst yn gafael ynddo chdi. Oedd o fatha bod o'n gafael yn dy dei di fwy na dim byd arall.聽Oedd o'n frwnt."

Doedd y disgyblion eraill a siaradodd gyda'r 成人快手 ddim am gael eu gweld yn gyhoeddus, ac mae eu henwau wedi eu newid.

Un ohonyn nhw oedd Eric, o Fethesda.

"Wrth afael yn fy nhei efo'i ddwrn mi fydda fo wedyn yn fy mhwsio i fyny'r wal gerfydd fy ngholer ysgol," meddai.

"Mi odd o'n ddyn brwnt ofnadwy. Mi oedd o'n ddyn creulon, ac mae o wedi cael聽get away聽ar hyd y blynyddoedd."

'Nes i symud ysgol achos fo'

"Ro'dd o'n rhedeg y dosbarth efo terror,"聽meddai Peter o Fethesda.

"O'dd o'n gafael rownd gwddf fi a rhoi ei fawd reit i'r corn gwddw tan o'n i'n tagu.

"Ar 么l gafael yn gwddw fi, mi 'nath o ramio fi yn erbyn y brass handle, ac mi o'dd hwnnw yn crafu 'nghefn i."

Ychwanegodd Vicky, hefyd o Fethesda: "'Nath o bywyd fi a fy mrawd yn hell. Bwli 'di o.

"Nes i symud ysgol achos fo. Mi 'nath o grabio gwddw brawd fi lot o weithiau.

"O鈥檇d o'n gafael yn ei wddf o, a'i godi fo fyny efo'i ddwylo. O'dd o'n tagu fo."

Dywedodd barnwr y gallai Foden ddisgwyl dedfryd hir o garchar am ei droseddau.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 1 Gorffennaf.

Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 成人快手.

Pynciau cysylltiedig