成人快手

'Annerbyniol' peidio cyhoeddi adroddiad ar d芒l athrawon

AthrawesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae UCAC wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "ddirmygu athrawon"

  • Cyhoeddwyd

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru wedi bygwth cynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol ymysg ei aelodau dros fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad am d芒l athrawon.

Roedd y llywodraeth wedi dweud y byddai'n cyhoeddi adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC) ar 12 Gorffennaf.

CACAC sy'n gyfrifol am gynnig argymhellion am godi cyflogau athrawon a'u hamodau gwaith i'r Ysgrifennydd Addysg.

Ond bron i wythnos yn ddiweddarach dyw'r adroddiad heb gael ei gyhoeddi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gohirio cyhoeddi'r adroddiad "er mwyn caniat谩u amser i ystyried goblygiadau posibl llywodraeth newydd y DU".

'Dirmygu athrawon Cymru'

Mae UCAC yn galw ar Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle i beidio ag oedi ymhellach ac i ryddhau'r adroddiad.

Yn 么l Ioan Rhys Jones, ysgrifennydd cyffredinol UCAC: 'Yn ein cyfarfod brys o Gyngor Cenedlaethol UCAC yr wythnos hon roedd pawb yn unfryd o'r farn bod oedi rhyddhau'r ymgynghoriad ar Adroddiad CACAC eleni gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwbl annerbyniol.

"Mae'n anodd iawn credu bod unrhyw reswm dilys dros yr oedi, ac felly mae'n tanseilio holl waith y Corff Annibynnol a'r rhanddeiliaid sydd wedi cyfrannu at y broses - proses sydd yn weithredol yng Nghymru ers Medi 2018."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ioan Rhys Jones fod yr Ysgrifennydd Addysg "wedi penderfynu eistedd ar yr adroddiad"

Dywedodd UCAC fod yr "adroddiad wedi cyrraedd dwylo'r Ysgrifennydd Cabinet ers wythnosau bellach, ond yn anffodus, mae wedi penderfynu eistedd ar yr adroddiad".

"Mae'r penderfyniad hwnnw'n dirmygu athrawon Cymru gan ei fod yn amlwg bod sicrhau cyflog ac amodau teg i athrawon yn eilradd i ystyriaethau gwleidyddol yn hyn o beth," meddai Mr Jones.

"Mae'n anffodus fod dyfodiad llywodraeth newydd yn San Steffan wedi golygu bod y Llywodraeth Lafur bresennol yng Nghaerdydd wedi dewis cydymffurfio'n llwyr 芒 dymuniadau Llafur yn Lloegr, hynny er ei fod yn faes datganoledig ac heb ystyried athrawon Cymru nac yn wir, ewyllys pobl Cymru, o gwbl.

"Os nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon cyhoeddi'r ymgynghoriad ar fyrder byddwn yn mynd ati i ymgynghori gydag aelodau dros yr wythnosau nesaf fel cam cyntaf tuag at weithredu diwydiannol posibl."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roeddem wedi bwriadu cyhoeddi adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar argymhellion Cyflogau ac Amodau Gwaith Athrawon erbyn 12 Gorffennaf.

"Fodd bynnag, rydym wedi gohirio'r cyhoeddiad hwn er mwyn caniat谩u amser i ystyried goblygiadau posibl llywodraeth newydd y DU ac i ganiat谩u amser i weithio ar draws Llywodraeth Cymru i gydgysylltu setliadau cyflog yn well ar draws y sector cyhoeddus."

Pynciau cysylltiedig