成人快手

'Rhaid i bob ysgol yng Nghymru gael diffibriliwr'

Steffan Howells
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Steffan Howells ataliad ar y galon tra'n chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc gafodd ataliad ar y galon wedi galw am wneud hi鈥檔 orfodol i bob ysgol yng Nghymru gael diffibriliwr, fel yn ysgolion Lloegr.

Yn 么l Steffan Howells, sydd bellach yn lysgennad i elusen Calon Hearts Cymru, gallai cael un wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw.

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C yn dangos nad oes gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru gofnod o ba ysgolion sydd 芒鈥檙 dyfeisiau achub bywyd.

O鈥檙 rheini sydd 芒 chofnod mae鈥檔 ddarlun cymysg - gyda'r nifer ar ei uchaf yng Nghaerffili lle mae gan 97% o ysgolion ddiffibrilwyr, ac ar ei isaf yn Sir Gaerfyrddin lle mae diffibrilwyr mewn 15% o ysgolion y sir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod 鈥減ob ysgol uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth wedi cael cynnig diffibriliwr鈥 a鈥檜 bod yn gweithio i gynyddu鈥檙 nifer mewn cymunedau.

Yn 2022 ac yntau鈥檔 26 mlwydd oed cafodd Steffan Howells ataliad ar y galon tra鈥檔 chwarae rygbi yng Nghaerdydd.

鈥淢a鈥 fe鈥檔 duedd i feddwl bod o鈥檔 digwydd lot yn fwy i bobl hyn, ond fi鈥檔 dyst bod pobl sydd dan 30 oed hefyd yn gallu cael ataliad," meddai.

鈥淢a鈥 rhan fwyaf y boblogaeth ifanc mewn ysgolion felly pe bai rywbeth yn digwydd mewn ysgol a bod ddim defib yno, yna bydde ti鈥檔 colli bywyd heb isie.

鈥淒ylse ni ddim bod mewn sefyllfa lle ni鈥檔 aros i rywbeth fel hyn ddigwydd er mwyn neud newid, dylse fe fod yn ddeddf fod peiriannau fel hyn yn angenrheidiol mewn ysgolion.鈥

'Edrych i'r dyfodol'

Gall diffibriliwr gynyddu鈥檙 siawns o oroesi o hyd at 70% os yw鈥檔 cael ei ddefnyddio o fewn pum munud o ataliad ar y galon.

Yn 么l, Dr Gethin Ellis, sy鈥檔 ymgynghorydd cardioleg, mae鈥檔 鈥済wneud synnwyr鈥 i gael diffibriliwr mewn llefydd lle mae pobl yn ymgasglu fel ysgolion.

鈥淒wi鈥檔 meddwl fod o鈥檔 neud synnwyr i gael diffibriliwr ym mhob man mae pobl yn casglu," meddai.

鈥淵n anffodus be 鈥'da chi鈥檔 tueddu i ffeindio ydy bod y diffibrilwyr yn cael eu rhoi mewn ysgolion lle ma鈥 'na drasiedi wedi bod.

鈥淒ylsa ni edrych i鈥檙 dyfodol a rhoi diffibrilwyr yn ein hysgolion i gyd yng Nghymru.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgyblion Ysgol Bro Teifi yn ceisio codi 拢1500 er mwyn cael ail beiriant yn yr ysgol

Mae rhai ysgolion wedi mynd ati i godi arian i brynu diffibrilwyr.

Er bod gan Ysgol Bro Teifi ddiffibriliwr, trefnwyd taith gerdded yn ddiweddar gan aelodau'r chweched dosbarth i gael ail ddyfais yn adran chwaraeon yr ysgol.

Dywedodd Jano Evans, disgybl yn Ysgol Bro Teifi: 鈥淣i wedi clywed sawl stori sy鈥檔 agos i adre. Ma鈥 gyda ni un yn y dderbynfa ond o鈥檔 i鈥檔 gweld e鈥檔 rhy bell a bod lot o glybiau鈥檔 iwsio鈥檙 adran chwaraeon dros y penwythnos ac ar 么l ysgol a bod isie fe gyda mwy a mwy o bobl yn defnyddio fe.

鈥淔alle dyle fe fod yn rhywbeth sydd yn orfodol yng Nghymru, achos falle dyw lot o bobl ddim yn y sefyllfa i godi鈥檙 arian fel i ni鈥檔 neud, a ni wedi gweld e鈥檔 her i godi鈥檙 拢1500 sydd eisiau.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jano Evans yn un o'r disgyblion oedd yn rhan o'r ymdrech godi arian

Ychwanegodd Hanna Evans, disgybl arall yn Ysgol Bro Teifi: 鈥淐hi ddim yn gwybod pryd ma鈥 fe mynd i ddigwydd, pryd ma鈥 angen un arnoch chi.

"A chi ddim moyn bod yn y sefyllfa na pam ma鈥 ddim 'da chi un, felly fi鈥檔 credu bydde fe鈥檔 bwysig i bob un (ysgol) gael un yn rhywle."

Canran ysgolion Cymru sydd 芒 diffibrilwyr

  • 15% Sir Gaerfyrddin

  • 39% Powys

  • 43% Rhondda Cynon Taf

  • 52% Blaenau Gwent

  • 61% Sir Fynwy

  • 73% Merthyr Tudful

  • 87% Sir Ddinbych

  • 97% Caerffili

*Dim cofnod o ysgolion sydd 芒 diffibrilwyr gan weddill awdurdodau lleol Cymru

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hanna Evans o'r farn y dylai fod gan bob ysgol ddiffibriliwr

Mae Plaid Cymru wedi galw am 鈥渨neud hi鈥檔 orfodol i ysgolion gael diffibriliwr ar bob safle鈥, fel yn Lloegr.

Dyna hefyd alwad y Ceidwadwyr sydd am weld Llywodraeth Cymru yn 鈥渕ynd i鈥檙 afael 芒 hyn ar frys鈥.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Lafur Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i alluogi cymunedau i gael diffibrilwyr sy'n hygyrch i'r cyhoedd, ac mae pob ysgol uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth wedi cael cynnig un.

"Mae rhaglen Achub Bywydau Cymru y GIG yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, meysydd chwaraeon, a sefydliadau'r sector cyhoeddus i gynyddu nifer y diffibrilwyr sydd ar gael mewn lleoliadau cymunedol. Mae鈥檙 rhaglen hefyd yn sicrhau bod y dyfeisiau'n cael eu cofrestru fel bod Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwybod ble maen nhw."

Pynciau cysylltiedig