成人快手

Ataliad calon ar gae rygbi: 'Gall ddigwydd i unrhyw un'

  • Cyhoeddwyd
Steff HowellsFfynhonnell y llun, Golley Slater
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Steff Howells ei ddisgrifio fel "un o'r dynion mwyaf ffit ar y cae", ond roedd angen CPR i achub ei fywyd

Mae chwaraewr rygbi 26 oed a ddioddefodd ataliad ar y galon ar y cae yn annog mwy o bobl i ddysgu neu i ddiweddaru eu sgiliau CPR.

Mae tua 6,000 o achosion ataliad y galon yn digwydd y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn.

Ond yn ddyn ifanc iach ac yn chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd, dywedodd Steff Howells nad oedd yn disgwyl treulio dyddiau yn yr ysbyty yn brwydro am ei fywyd.

Un prynhawn Sadwrn ym mis Hydref 2022 fe ddisgynnodd i'r llawr yn anymwybodol cyn derbyn CPR am 17 munud - ymateb mae'n dweud "achubodd ei fywyd".

Erbyn hyn mae Steff, sydd wedi gallu ailddechrau chwaraeon ysgafn, eisiau defnyddio ei brofiadau i rannu'r pwysigrwydd o ddarparu cymorth cyflym.

'Bach yn swrreal'

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn Radio Cymru fe ddywedodd: "Dwi'n cofio mynd i bigo coffi lan fel rhan o routine cyn pob g锚m, a'r peth nesa' yn cofio mynd i'r g锚m, ond dyna'r unig ddau atgof.

"Y peth nesaf roeddwn yn dihuno lan yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd cwpl o ddiwrnodau ar 么l hynny ac ro'dd hi'n amlwg mod i wedi bod yn brwydro am fy mywyd."

Ffynhonnell y llun, Golley Slater
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Steff yn chwarae dros Glwb Rygbi Cymry Caerdydd ar y pryd

Dywedodd fod ei deulu wedi dweud wrtho wedyn ei fod "wedi codi allan o ryc a disgyn yn fflat gyda neb o gwmpas".

"Roedd e bach yn swrreal, bach yn anghredadwy, dwi wedi cael fy monitro ar gyfer y galon o'r blaen ond byth wedi teimlo fod rhywbeth fel'na am ddigwydd.

"Yn yr wythnosau yn arwain lan doeddwn ddim yn teimlo'n s芒l neu fod dim o'i le, mae'r ffaith fod e wedi digwydd pan oeddwn yn 26 oed a just yn chwarae rygbi fel pob dydd Sadwrn yn dangos fod e'n gallu digwydd i unrhyw un.

"Nath yr un peth ddigwydd i Christian Eriksen yn ystod Euro 2022, ma fe just yn dangos allwch chi byth gymryd pethe yn ganiataol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Christian Eriksen, o Ddenmarc, gael ataliad ar y galon yng nghanol g锚m Euro 2020 yn erbyn Y Ffindir

A hithau'n wythnos iechyd dynion mae Steff, sy'n wreiddiol o Grymych ond nawr yn byw yng Nghaerdydd, yn annog pobl ledled Cymru i ddysgu neu i ddiweddaru sgiliau CPR a diffibrilio hanfodol.

"Ro'n i'n lwcus iawn. Fe wnaeth pobl eraill yn y t卯m weithredu'n gyflym, dechrau CPR ac achub fy mywyd yn y pen draw."

'Rhaid gweithredu'n gyflym'

Mae ymateb cyflym yn hanfodol pan fydd ataliad y galon yn digwydd.

Am bob munud sy'n mynd heibio pan nad yw CPR a diffibrilio yn cael ei wneud, mae risg y claf o oroesi yn gostwng 10%.

Yn lwcus i Steff, ochr y cae ar y pryd oedd Dave Pemberton, llawfeddyg orthopedig ymgynghorol a meddyg ar gyfer Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.

Roedd yn rhan o'r gr诺p a weithredodd yn gyflym pan gwympodd Steff.

Ffynhonnell y llun, Golley Slater
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dave Pemberton (chwith): "Mae'n dangos bod rhywbeth fel hyn yn gallu digwydd i unrhyw un"

"Roeddwn i'n gallu gweld nad oedd yn anadlu, ac roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi weithredu'n gyflym," meddai.

"Yr unig beth ar fy meddwl oedd dod ag ef yn 么l yn fyw. Dechreuais CPR ar unwaith a ffoniodd rhywun arall 999, ac roedd ambiwlans ar ei ffordd yn syth.

"Roedden ni'n ffodus o gael diffib ochr cae wrth ein hymyl fel ein bod yn gallu defnyddio hwnnw ar Steff cyn iddo gael ei ruthro i'r ysbyty.

"Roedd y dyddiau hynny ar 么l y digwyddiad yn ofnadwy. Fe es i'w weld yn yr ysbyty wedyn. Roedd e mewn cyflwr sefydlog, ond ro'n i'n aros ac yn aros.

"Ac yng nghefn fy meddwl ro'n i'n meddwl, 'ydy e'n mynd i ddeffro? Os yw'n deffro, sut mae'n mynd i fod?'

"Roedd yn gyfnod anodd i'w ffrindiau, ei deulu ac i gymuned y clwb.

"Steff yw ein blaenasgellwr ochr agored, un o'r dynion mwyaf ffit ar y cae. Mae'n dangos bod rhywbeth fel hyn yn gallu digwydd i unrhyw un."

Ychwanegodd Steff: "Dwi ddim yn 么l ar y cae rygbi, ond dwi n么l yn hyfforddi gyda'r bechgyn, yn mynd i'r gampfa a chwarae ychydig o b锚l-droed 5 bob ochr.

"Byddaf yn ddiolchgar am yr hyn wnaeth Dave a'r t卯m am byth; os na wnaethon nhw weithredu'n gyflym, byddai ansawdd bywyd y byddwn wedi'i gael nawr wedi dirywio'n ddramatig."

Pynciau cysylltiedig