成人快手

Yr Eidal yn trechu Cymru mewn g锚m agos yn Cape Town

Hannah BluckFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hannah Bluck sgoriodd unig gais Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae merched Cymru wedi colli eu hail g锚m yn olynol yng nghystadleuaeth y WXV2 yn Ne Affrica, wedi i'r Eidal eu trechu o 8-5 mewn g锚m agos yn Cape Town.

Aeth yr Eidalwyr ar y blaen wedi ychydig dros 10 munud, gyda'r capten Elisa Giordano yn croesi am gais.

Ond fe lwyddodd Cymru i daro n么l ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wrth i'r canolwr Hannah Bluck groesi i'w gwneud hi'n gyfartal 5-5 ar yr egwyl.

10 munud i mewn i'r ail hanner roedd Yr Eidal yn 么l ar y blaen diolch i g么l gosb Beatrice Rigoni.

Er i Gymru bwyso tua'r diwedd am y cais allweddol a fyddai wedi sicrhau'r fuddugoliaeth, fe lwyddodd yr Eidalwyr i ddal eu tir a rhwystro'r crysau cochion.

Roedd Cymru a'r Eidal wedi colli eu gemau cyntaf yn y gystadleuaeth yn Ne Affrica - Cymru 37-5 yn erbyn Awstralia, a'r Eidal 19-0 yn erbyn Yr Alban.

Bydd g锚m olaf Cymru yn y gystadleuaeth yn erbyn Japan ddydd Gwener nesaf.