成人快手

Cyhuddo dyn 21 oed o lofruddiaeth yng Nghasnewydd

Lee CreweFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae teulu Lee Crewe wedi ei ddisgrifio fel "dyn hyfryd, y tu mewn a thu allan"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 21 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 36 oed yng Nghasnewydd.

Bu farw Lee Crewe ar 么l iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Cas-gwent yn y ddinas.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r digwyddiad am tua 18:00 ddydd Mawrth, 14 Mai wedi adroddiadau bod dyn wedi ei anafu yn ddifrifol.

Mae'r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Mr Crewe yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall fel rhan o'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Crewe

Mewn datganiad, mae teulu Mr Crewe wedi ei ddisgrifio fel "dyn hyfryd, y tu mewn a thu allan".

Mae'r teulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd Heddlu Gwent: "Ry'n ni'n cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Lee Crewe yn ystod y cyfnod yma.

"Fel rhan o'r ymchwiliad, hoffem siarad ag unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth neu fanylion all fod o ddefnydd."

Ychwanegodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall fel rhan o'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Crewe.

Pynciau cysylltiedig