成人快手

'Rhaid i Gymru ddilyn polisi gofal plant am ddim Lloegr'

  • Cyhoeddwyd
Jade Lily, ei phartner a dau o blant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddechreuodd Jade Lily ddeiseb yn galw am newid i gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru

Mae rhai rhieni am i Lywodraeth Cymru ddarparu'r un faint o gymorth ariannol ar gyfer gofal plant 芒'r hyn sydd ar gael yn Lloegr.

Yn Lloegr, cafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth y byddai gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn cael ei ymestyn i bob plentyn o dan bump oed erbyn mis Medi 2025 - hynny er mwyn annog rhieni yn 么l i'r gwaith.

Mae deiseb sy'n galw am gynllun cyfatebol yng Nghymru wedi denu dros 6,000 o lofnodion mewn 48 awr.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisoes yn cynnig gofal plant o safon uchel.

'Does dim diweddariad wedi bod'

Fe wnaeth Jade Lily, mam i ddau o blant o Gaerdydd, greu'r ddeiseb ar 么l clywed profiadau rhieni eraill trwy ei thudalen Instagram Mum Life.

"Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei pholisi gofal plant, 'nes i weld fod llawer o rieni Cymraeg yn cymryd y bydde fe'n berthnasol iddyn nhw.

"'Dw i wedi aros ers mis Mawrth i glywed beth mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei wneud efo'r arian gan Lywodraeth y DU ar gyfer gofal plant, ond does dim diweddariad wedi bod."

Disgrifiad,

Mae gofal plant wedi costio dros 拢2,000 i Rhian Meara mis yma ac mae'n teimlo bod angen rhagor o gymorth

Mae Rhian Meara yn fam i ddwy ferch fach yn ardal Abertawe.

Mae'n dweud bod talu am ofal i'r ddwy yn y mis lle nad oes arian yn dod gan y llywodraeth wedi costio dros 拢2,000 i'r teulu.

Teimla Ms Meara fod angen rhagor o gefnogaeth yn y blynyddoedd yn cynnar, yn enwedig os yw'r llywodraeth yn awyddus i weld mamau yn dychwelyd i weithio.

Beth fydd ar gael i rieni yn Lloegr?

  • Bydd rhieni i blant dwy oed yn derbyn 15 awr o ofal am ddim o fis Ebrill 2024;

  • Bydd plant rhwng naw mis a dyflwydd oed yn derbyn 15 awr o fis Medi 2024;

  • Bydd pob plentyn cymwys o dan bump oed yn derbyn 30 awr o fis Medi 2025.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu dau gynllun gofal plant rhwng dwy a phedair oed.

O dan y , gall rhieni a gofalwyr plant tair a phedair oed hawlio hyd at 30 awr o ofal am ddim yr wythnos, 48 wythnos o'r flwyddyn, os ydyn nhw'n gymwys.

Mae cynllun yn darparu 12.5 awr o ofal am ddim i rai plant dwy oed mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Mae'r cynllun hwn wrthi'n cael ei ehangu ac yn y pendraw fe fydd ar gael i bob plentyn dwy oed, fel rhan o gytundeb cydweithio'r llywodraeth a Phlaid Cymru.

Ond fe ddywedodd Ms Lily fod Dechrau'n Deg yn "gadael rhieni sy'n gweithio i lawr".

Ffynhonnell y llun, Kirsty Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cost gofal plant wedi bod yn "heriol iawn" i Kirsty Thomas

Mae gan Kirsty Thomas o Fangor ddau o blant - Rory sy'n ddwy oed a Jude sy'n bedair.

Fe wnaeth hi lofnodi'r ddeiseb am ei bod hi'n "braf gweld rhywun yn cymryd yr awenau".

"Pan 'nes i ddychwelyd i'r gwaith ar 么l cael fy mab yn 2020, ro'n i eisiau mynd 'n么l yn llawn amser," meddai.

"'Nes i weithio'n galed iawn i gael gyrfa broffesiynol ym myd addysg, ac yn y diwedd o'n i'n talu bron i 拢1,000 y mis ar gyfer gofal plant - hynny ar 么l gostyngiad 20% gan y llywodraeth - o'dd yn heriol iawn i ni."

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni eisoes yn cynnig gofal plant o safon uchel i blant dwy oed yng Nghymru trwy ein cynllun Dechrau'n Deg, fel rhan o'n cytundeb cydweithio efo Plaid Cymru.

"Rydyn ni'n cyflwyno'r cynllun fesul cam, gan ystyried capasiti'r sector gofal plant drwy Gymru, lle mae angen i ni weld cynnydd i'r gweithlu a nifer y canolfannau gofal."