成人快手

Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad i'r uwchgynghrair

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, John Smith/FAW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Wrecsam yn chwarae yn yr Adran Premier y tymor nesaf

Bydd Wrecsam yn chwarae yn yr Adran Premier y tymor nesaf wedi iddynt drechu Llansawel brynhawn Sul.

Chwaraewyd y g锚m dyngedfennol yn y Drenewydd wrth i bencampwyr y gogledd a'r de gystadlu am un lle yn y brif adran.

Ond yn erbyn llif y chwarae roedd g么l Rebecca Pritchard wedi 74 munud yn ddigon i sicrhau dyrchafiad i'r Dreigiau.

Roedd gan Wrecsam hefyd llawer i ddiolch i Delyth Morgan yn dilyn arbediad holl bwysig o ymdrech Mollie Jones ym munud olaf y 90 pan roedd drwodd ar y g么l.

Hefyd tarrodd Llansawel y bar o gic rydd yn ystod eiliadau ola'r g锚m.

Roedd Wrecsam wedi sicrhau pencampwriaeth yr Adran North yn erbyn Cei Connah o flaen torf o dros 9,000 fis diwethaf.

Roedd cyd-gadeiryddion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, eisoes wedi addo bydd y garfan yn troi'n led-broffesiynol petaent yn ennill dyrchafiad i'r uwchgynghrair.

Er gwaetha'r siom bydd Llansawel nawr yn troi eu golygon at wynebu Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru penwythnos nesaf.