Rhybudd y gallai ffermydd teuluol 'chwalu' o achos treth etifeddiant
- Cyhoeddwyd
Fe allai unrhyw benderfyniad i ddechrau codi treth etifeddiant ar dir ffermio arwain at “chwalu” ffermydd teuluol yng Nghymru, yn ôl un undeb amaeth.
Mae’r ˿ yn deall bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cynyddu maint yr arian mae hi’n ei gael drwy’r dreth yn ei Chyllideb ddiwedd y mis.
Ar hyn o bryd mae tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaeth wedi ei eithrio o’r dreth.
Dywedodd y Trysorlys na fyddai’n gwneud sylw ar ddyfaliadau.
- Cyhoeddwyd17 Hydref
- Cyhoeddwyd10 Hydref
- Cyhoeddwyd28 Medi
Mae’r dreth yn werth tua £7bn y flwyddyn i’r Trysorlys.
Ar hyn o bryd mae'r dreth yn codi 40% ar eiddo ac arian rhywun sydd wedi marw y tu hwnt i drothwy o £325,000.
Mae yna nifer o eithriadau i’r dreth ac mae yna le i gredu bod y llywodraeth yn ystyried newidiadau i’r rhain.
Mae’r canghellor yn dweud bod angen dod o hyd i £40bn yn ei chyllideb er mwyn cau’r bwlch yng nghyllid y wlad ac i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
Dydy hi ddim yn hysbys beth fydd yn y gyllideb fydd yn cael ei chyhoeddi ar 30 Hydref.
Ond yn y cyfamser mae undeb NFU Cymru wedi rhybuddio yn erbyn codi treth etifeddiant ar dir ffermio.
'Ffermydd yn lleihau i ddim'
“Rydyn ni’n bryderus iawn am hyn,” meddai ymgynghorydd gwleidyddol yr undeb Huw Thomas.
“Os oes fferm yn wynebu bil treth o 40% bob tro mae newid o un genhedlaeth i’r nesa’n digwydd – ac os ydych chi’n ystyried bod ffermydd ddim ond yn gwneud elw o tua 1% - does dim ffordd y byddan nhw’n gallu talu’r bil, ac o fewn cenhedlaeth neu ddwy byddwch chi siŵr o fod yn gweld ffermydd teuluol yn cael ei lleihau i ddim.
“Mae’n ddigon posib y bydd yn rhaid iddyn nhw werthu er mwyn talu’r bil, fydd yn arwain at chwalu ffermydd teuluol ac bydd hynny’n cael effaith negyddol iawn ar y Gymru wledig.”
Mae gan Mr Thomas bryderon hefyd am yr effaith bosib ar ffermwyr sy’n rhentu tir i’w ffermio.
“Mae’n bosib, pe bai hyn yn digwydd, byddai’r ailstrwythuro fyddai’n digwydd o fewn y diwydiant yn golygu bod llai o dir ar gael i ffermwyr ei rentu.”
Mae NFU Cymru wedi ysgrifennu at y canghellor ac ASau Cymru i leisio’u pryderon.
Mae’r undeb hefyd yn nodi bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig newydd yn San Steffan, Steve Reed - pan yr oedd Llafur yn wrthblaid - wedi dweud nad oedd gan y blaid “unrhyw fwriad” i newid y sefyllfa i ffermwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys wrth y ˿: “Dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar ddyfaliadau ynghylch newidiadau trethol y tu hwnt i ddigwyddiadau cyllidol.”