成人快手

Gostwng terfyn cyflymdra yn 'newyddion da'

  • Cyhoeddwyd
20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y gyfraith yn newid ar 17 Medi 2023 wedi iddi gael ei phasio yn y Senedd ym mis Gorffennaf eleni

Mae rhybuddion y bydd gostwng terfyn cyflymdra yn niweidio'r economi yn gwbl ddi-sail, meddai gweinidog o Lywodraeth Cymru.

Bydd y cyfyngiad cyflymdra yn gostwng o 30mya i 20mya mewn trefi a phentrefi fis Medi nesaf.

Mae un o ddogfennau'r llywodraeth ei hun wedi dweud y gallai teithiau hirach fod yn "anfantais economaidd sylweddol".

Ond mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am y polisi yn dweud ei fod yn amheus yngl欧n 芒'r ffigyrau.

Achub bywydau

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y bydd gostwng terfyn cyflymdra yn gwneud y strydoedd yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr.

Gallai rhwng 40 a 440 o fywydau gael eu hachub mewn cyfnod o 30 mlynedd, yn 么l dadansoddiad gan y llywodraeth.

Byddai llai o farwolaethau ar y ffordd yn arbed arian i'r gwasanaethau brys ac fe allai helpu'r economi, meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyflymdra eisoes wedi'i ostwng yn Llandudoch

Ond mae'r yn rhybuddio am effaith teithiau hwy ar bobl sy'n gorfod gyrru i'w gwaith.

Yr "amcangyfrif canolog" yw y gallai gostio 拢4.5bn i'r economi yn ystod cyfnod o 30 blynedd.

Mae disgwyl i deithiau fod lai na munud yn hirach ar gyfartaledd.

Dywedodd Mr Waters fod yr asesiad o'r effaith ar yr economi yn fesur aneffeithiol.

"Mae'r syniad bod cyrraedd yr ysgol lai na munud yn hwyr yn niweidio'r economi yn anghredadwy," meddai.

"Felly dwi'n meddwl bod y ffigyrau yn ddi-sail...

"Mae'r newid yn mynd i achub bywydau. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn mynd i achub bywydau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cynlluniau peilot eu cynnal yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a siroedd Caerfyrddin, Penfro a'r Fflint cyn pleidlais y Senedd

Mae gwaith ymchwil gwahanol a gomisiynwyd gan y llywodraeth wedi dod i'r casgliad y gallai gostwng cyflymdra arbed 拢100m yn y flwyddyn gyntaf yn unig.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod 'na le am gyfyngiadau tu allan i ysgolion neu feysydd chwarae, ond taw cynghorau lleol ddylai benderfynu ble i'w rhoi nhw.

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y blaid, Natasha Asghar, bod angen i'r llywodraeth Lafur gael gwared ar eu cynlluniau "dogmatig" ac adeiladu mwy o ffyrdd.

Bydd y gyfraith yn newid ar 17 Medi 2023 wedi iddi gael ei phasio yn y Senedd ym mis Gorffennaf eleni.

Dywedodd Mr Waters y bydd yn "newid mawr" i ddechrau, ond y bydd pobl yn cyfarwyddo yn gyflym - fel y gwnaethant pan ddaeth gwregysau diogelwch yn orfodol.

20mya eisoes yn Llandudoch

Gallai hyd at 7,700 milltir (12,535km) o ffyrdd gael eu heffeithio, er y bydd cynghorau lleol yn gallu cadw'r hen gyflymder mewn rhai achosion os ydyn nhw'n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.

Fel arbrawf o'r polisi, fe wnaeth Llandudoch, yn Sir Benfro, gyflwyno'r cyfyngiad is yn 2021.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r newid cyflydra yn fendithiol, medd Fiona Andrews

Dywed Fiona Andrews, sydd wedi ymgyrchu dros y newid, bod traffig trwy'r pentref wedi arafu.

"Mae'n teimlo'n dawelach, yn fwy cyfeillgar," meddai.

"Mae'n teimlo'n rhwyddach i deithio o gwmpas a stopio i sgwrsio gyda ffrindiau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mandy Walters yn credu bod y terfyn cyflymdra newydd yn rhy araf

Dywedodd y cynghorydd lleol, Michael James: "Mae pobl yn teimlo'n fwy saff yn cerdded.

"S'im pawb yn cytuno, ond nifer fechan sy' ddim yn 'neud 20mya nawr."

Ond fe ddywedodd Mandy Walters, sy'n byw yn y pentref ac yn gwerthu pysgod yn y farchnad, nad oedd hi'n hoff o'r terfyn cyflymder newydd.

"Mae'n rhy araf," meddai.