成人快手

Cyfyngu cyflymdra i 20mya ddim yn gwella diogelwch - ymchwil

  • Cyhoeddwyd
20myaFfynhonnell y llun, Getty Images

Dydy gostwng cyfyngiad cyflymdra ffyrdd i 20mya ddim yn gwella diogelwch yn sylweddol, yn 么l adroddiad newydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r prif reswm tu 么l eu cynlluniau i fod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r newid yw cadw pobl yn ddiogel mewn ardaloedd preswyl.

Ond, mae ymchwil newydd ar ffyrdd 20mya yn Belfast yn awgrymu "nad oes gwahaniaethau sylweddol ystadegol" yn nifer y gwrthdrawiadau, cyfraddau anafiadau na chyfartaledd cyflymdra".

Mae gweinidogion Cymru wedi cael cais am ymateb i'r ymchwil newydd.

Yn 么l Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, Lee Waters, mae'r dystiolaeth yn "glir iawn" bod gostwng cyfyngiadau cyflymdra yn achub bywydau.

Fe gyfeiriodd at ymchwil gan Brifysgol Napier Caeredin ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n amcangyfrif y byddai 19 yn llai o farwolaethau yn y flwyddyn gyntaf o gyflwyno'r cyfyngiad 20mya, ac y byddai 213 yn llai o bobl yn cael eu hanafu'n ddifrifol ar y ffyrdd.

Fe bleidleisiodd aelodau'r Senedd o blaid gostwng y cyflymdra mewn ardaloedd trefol o 30mya i 20mya yng Nghymru - gan ddechrau fis Medi'r flwyddyn nesaf.

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno deddf o'r fath - ac mae disgwyl i'r Alban gyflwyno rheolau tebyg yn 2025.

'Effaith fechan'

Ond, mae astudiaeth newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan y Journal of Epidemiology and Community Health yn edrych ar y data cyn ac ar 么l i'r cyfyngiad gael ei gyflwyno ar 76 o ffyrdd yng nghanol Belfast yn 2016.

Fe ddaeth i gasgliad mai "effaith fechan" gafodd y newid ar ganlyniadau hirdymor yn y ddinas.

Doedd dim "gwahaniaethau sylweddol yn ystadegol" o ran gwrthdrawiadau nag anafiadau.

Mae'r awduron yn dadlau y gallai cyfyngiadau 20mya, ynghyd 芒 mesurau eraill fel hyfforddiant i yrrwyr, camerau cylch cyfyng a chyfathrebiad gyda'r heddlu, arwain at "newid diwylliant uchelgeisiol".

Ychwanegon y byddai torri terfynau "ddim yn ymyriad diogelwch ffyrdd syml" ond y gallai fod yn "rhan o'r newid yn sut ry'n ni'n dewis ein blaenoriaethau mewn bywyd - pobl cyn ceir".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cynlluniau peilot eu cynnal yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a siroedd Caerfyrddin, Penfro a'r Fflint cyn pleidlais y Senedd

Mae gweinidogion Cymru'n dweud y byddai'r newid yn cwtogi ar s诺n traffig hefyd, gan annog mwy o bobl i gerdded a seiclo.

Dywedodd arbenigwr ar ddiogelwch y ffyrdd o gwmni RAC, Simon Williams, ei fod "ychydig yn bryderus" am ganlyniadau'r astudiaeth gan eu bod "i weld yn mynd yn erbyn ymchwil arall sydd wedi ei gyhoeddi dros y blynyddoedd".

Fe wnaeth yr awduron nodi bod eu hymchwil ar raddfa lai o faint nag astudiaethau eraill ar yr un pwnc.

Pynciau cysylltiedig