成人快手

Costau byw: Teuluoedd yn dewis rhwng bwyd a chwaraeon plant

  • Cyhoeddwyd
Johanna Cotterrall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae un clwb wedi dechrau system o gasglu esgidiau rygbi i'w rhoi i deuluoedd sy'n wynebu cyfnod heriol

Mae'r argyfwng costau byw yn gorfodi pobl i ddewis rhwng prynu bwyd a gwneud gweithgareddau chwaraeon, yn 么l adroddiad newydd.

Dywedodd un clwb rygbi bod plant wedi stopio chwarae oherwydd cost esgidiau a phetrol i rieni.

Mae pwyllgor chwaraeon y Senedd wedi galw am "ailystyriaeth radical" ar 么l darganfod bod costau byw yn atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i "hyrwyddo mynediad cyfartal i chwaraeon ar hyd y wlad".

Ers ei sefydlu yn 2017, mae gan Glwb Rygbi Caerau Trel谩i yng Nghaerdydd fwy na 150 o chwaraewyr yn yr adran iau, gan ddenu plant o rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y brifddinas.

Mae'r clwb wedi dechrau casglu esgidiau rygbi er mwyn eu rhoi i blant sydd eu hangen fwyaf.

Ond ar 么l dosbarthu cannoedd o barau o esgidiau, dim ond ychydig sydd ar 么l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae clybiau chwaraeon yn bwysig ar gyfer lles plant a'u rhieni, yn 么l Johanna Cotterrall

"Dwi wedi sylweddoli gyda theuluoedd sydd 芒 dau neu'n rhagor o blant nad ydyn nhw'n dod, gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio cael dau b芒r newydd o 'sgidiau," dywedodd rheolwr y clwb, Johanna Cotterrall.

"Ry'n ni wedi colli nifer o rieni dros y blynyddoedd i iechyd meddwl ac hunanladdiad," ychwanegodd.

"Beth y'ch chi'n gwneud gyda'r rhieni yna sydd ddim bellach 芒 phartneriaid a gw欧r, ond sy'n dod yma ar foreau Sul i wylio'r plant a chael coffi a gweld ffrindiau?

"A beth y'ch chi'n gwneud gyda'r 150 o blant - does dim chwaraeon eraill yng Nghaerau a Threl谩i sy'n rhad."

'Colli allan ar fod yn blant'

Mae Ms Cotterrall yn dweud ei bod yn poeni am ddyfodol y clwb sydd wedi cael trafferth cael grantiau yn y gorffennol - grantiau a fyddai'n lleddfu ar rwystrau ariannol i rieni.

"Os ydyn nhw'n byw ochr arall i Drel谩i, dydy nhw ddim yn gallu fforddio'r petrol. Hefyd ry'ch chi'n gweld plant yn dod a does ganddyn nhw ddim beth sydd ei angen.

"Mae plant yn colli'r cysylltiad yna, maen nhw'n colli'r hwyl, maen nhw'n colli bod yn blentyn. Felly mae gwir angen iddyn nhw ddod n么l a bod yn blant."

Dywedodd Alun Jenkins o Glwb Rygbi Ystradgynlais nad yw plant yn gorfod talu unrhyw ffioedd aelodaeth, ac maen nhw hefyd wedi sefydlu casgliad o esgidiau rygbi er mwyn ceisio annog cymaint o blant 芒 phosib i ymuno.

"Dwi'n si诺r i rai pobl y bydde fe'n gwneud gwahaniaeth - os oes dau blentyn 'da chi, a chi moyn aelodaeth fe allai fod yn gostus i rai pobl," meddai.

"Mae boots bank 'da ni, ac mae'n rhydd i rywun ddod mewn os oes eisiau p芒r arnyn nhw, ac os maen nhw'n ffitio, maen nhw'n gallu cael nhw - dim problem o gwbl."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dyw'r ieuenctid ddim yn gorfod talu dim o gwbl," meddai Alun Jenkins am Glwb Rygbi Ystradgynlais

Hefyd yn Ystradgynlais mae Clwb Rygbi Yogits - clwb rygbi cyffwrdd ar gyfer chwaraewyr dros 35 oed neu sydd wedi cael anaf felly'n methu chwarae rygbi arferol.

Mae'r clwb wedi tyfu'n gyflym, ac mae ganddo dros 70 yn chwarae'n gyson erbyn hyn. Rhan o'r llwyddiant, medd Huw Tomos o'r clwb, yw bod y gost yn isel iawn.

"Mae'n 拢2 yr wythnos, ac ma'i gyd o'r arian ni'n gwneud yn mynd n么l mewn i'r clwb, ond os yw rhywun yn ffeindio hi'n galed talu bydden ni byth yn troi neb i ffwrdd," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig cael clwb o'r fath ar gyfer pobl o'r oedran yma gan nad oes cymaint o opsiynau o ran timau chwaraeon a chadw'n heini wrth i bobl fynd yn h欧n.

"Yr unig beth arall gallen ni wneud yw mynd i'r ganolfan hamdden i 'neud dosbarthiade a phethe fel'na, ond mae cost i hwnna."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Huw Tomos fod cost isel yn denu mwy o bobl i gynrychioli Clwb Rygbi Yogits

Fe wnaeth adroddiad pwyllgor y Senedd dynnu sylw at faterion eraill hefyd fel rhwydweithiau trafnidiaeth annigonol, diffyg hyder ac anghydraddoldeb rhywedd.

Mae'r pwyllgor wedi gwneud 12 argymhelliad, gan gynnwys:

  • Galw am "ddull cenedlaethol" i fynd i'r afael 芒'r broblem, gan gynnwys gosod targedau i wella mynediad

  • Agor ysgolion ac adnoddau cymunedol eraill fel y gall pobl gael gwell mynediad i weithgareddau

  • Rhoi mwy o arian i fynd i'r afael 芒'r broblem o niferoedd llai o bobl yn cymryd rhan mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae'r pwyllgor hefyd wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn Seland Newydd a sefydlu cynllun peilot i gynnig ariannu offer a chostau eraill.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod grantiau ar gael i blant sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim ar gyfer "gwisg ysgol, gwisg chwaraeon ac offer eraill".

Mae'r grant - sydd wedi cynyddu 拢100 eleni - yn 拢225 i bob dysgwr, neu 拢300 i'r rheiny sy'n mynd i Flwyddyn 7.

Bydd pob plentyn sydd mewn gofal yn gymwys am y grant hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i fuddsoddi mewn adnoddau chwaraeon a hyrwyddo mynediad cyfartal i chwaraeon ar hyd y wlad.

"Ry'n ni'n annog Llywodraeth y DU i weithredu nawr a defnyddio eu pwerau cyllidol i warchod incwm pobl yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Fe ychwanegodd y llefarydd bod Llywodraeth Cymru'n addo ystyried adroddiad y pwyllgor ac "ymateb yn llawn maes o law".