成人快手

Cynllun esgidiau chwaraeon yn helpu plant difreintiedig

  • Cyhoeddwyd
成人快手
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynllun eiseos wedi casglu 100 o barau o esgidiau i deuluoedd mewn angen

Dywed dyn o Gastell-nedd ei fod wedi cael ei synnu gan haelioni pobl ar 么l iddo sefydlu ymgyrch i gasglu citiau p锚l-droed ar gyfer teuluoedd llai breintiedig.

Gobaith Carl Bradley, o Gimla, yw y bydd y cynllun hefyd yn rhoi cyfle i fwy o blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon.

Dechreuodd y syniad dair wythnos yn 么l ar y gwefannau cymdeithasol ac mae eisoes wedi cael cefnogaeth 1,300 o bobl ar-lein a chasglu dros 100 o esgidiau p锚l-droed a rygbi.

Ac ar 么l derbyn cefnogaeth clwb p锚l-droed Abertawe fe fydd cynllun The Boot Room yn cael lansiad swyddogol yn Stadiwm Liberty ddydd Iau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Carl Bradley ei fod yn "ffordd ymarferol o helpu"

Dywedodd Mr Bradley: "Fe wnes i benderfynu sefydlu'r cynllun wrth wylio fy mab yn chwarae p锚l-droed.

"Fe glywais i un o'r rhieni yn dweud nad oedd hi'n si诺r a fyddai ei phlentyn yn 么l y tymor nesa', gan nad oedd hi'n gallu fforddio'r gost o brynu esgidiau newydd.

"A wnes i drio meddwl am ffordd ymarferol o helpu," meddai.

"Fy nod yw helpu gymaint o blant 芒 phosib, boed hynny mewn p锚l-droed neu rygbi.

"Bydd y lansiad yn y Liberty hefyd yn gyfle i ddweud diolch wrth bawb."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ethan (chwith), sydd i'w weld yma gyda'i deulu, wedi cael p芒r o esgidiau p锚l-droed newydd trwy'r cynllun

Mab chwech oed Michelle Eaton o Nantgaredig, Ethan, yw un o'r rhai sydd eisoes wedi elwa o'r cynllun.

Bu'n rhaid i'w phartner, David roi'r gorau i weithio ar 么l cael trawiad, ac mae hynny wedi rhoi straen ariannol ar y teulu.

Dywedodd Ms Eaton: "Fel arfer, byddwn i ddim yn meddwl dwywaith am brynu p芒r newydd o esgidiau i Ethan, ond gyda'r p芒r diwetha' wedi costio 拢55, dyw e' ddim yn rhywbeth y gallwn ni fforddio ar hyn o bryd.

"Mae cynllun Carl yn ffantastig, a byddwn ni hefyd yn rhoi'r esgidiau maes o law i rywun arall."