成人快手

'Prisiau tai yn boncyrs ar hyn o bryd,' medd un arwerthwr

  • Cyhoeddwyd
Tai mewn ardal preswylFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed un asiant tai bod y farchnad yn "boncyrs" ar hyn o bryd

Mae pris t欧 yng Nghymru wedi codi dros 拢240,000 ar gyfartaledd am y tro cyntaf, yn 么l Cymdeithas Adeiladu'r Principality.

Fe gynyddodd y prisiau ar gyfartaledd 11.5% yn ail chwarter 2022, o gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.

Ym Mlaenau Gwent roedd y codiad pris uchaf ymhlith awdurdodau lleol - cynnydd o 20.6%.

Dywedodd asiant tai yng Nglynebwy, Jeanne Fry-Thomas, fod y farchnad dai yn "boncyrs" ar hyn o bryd.

Cynnydd cryf mewn prisiau tai

Mae mynegai prisiau tai Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn cofnodi gwerthiannau tai rhwng Ebrill a Mehefin 2022.

Yn ogystal 芒 chynnydd blynyddol o 11.5% mewn prisiau, roedd cynnydd o 9% hefyd yn nifer y gwerthiannau.

"Mae Cymru yn parhau i weld rhai o'r codiadau uchaf mewn prisiau tai ar draws y DU," meddai Shaun Middleton, pennaeth dosbarthu Cymdeithas Adeiladu'r Principality.

Pris t欧 ar gyfartaledd yng Nghymru yw 拢240,635, sef yr uchaf erioed, ac mae'r cynnydd o 11.5% yn golygu bod y pris wedi codi tua 拢25,000 o'i gymharu 芒 blwyddyn yn 么l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae prynu t欧 am y tro cyntaf neu prynu cartref pris uwch yn gallu bod yn anodd, medd Shaun Middleton o'r Principality

Mae prisiau tai uchaf Cymru yn Sir Fynwy, gyda'u gwerth ar gyfartaledd yn 拢368,621 yn ail chwarter y flwyddyn. Roedd prisiau yn y sir i fyny 11.4% ers blwyddyn yn 么l, ond i lawr 0.2% ers y chwarter blaenorol.

Blaenau Gwent oedd 芒'r cynnydd uchaf ym mhrisiau tai o'i gymharu 芒 blwyddyn yn 么l gyda'r prisiau wedi codi 20.6%. Mae pris t欧 bellach yn 拢150,284 ar gyfartaledd, ac yn parhau i fod yr isaf yng Nghymru.

Dim ond Sir Ddinbych gofnododd ostyngiad mewn prisiau o gymharu 芒 blwyddyn yn 么l, er iddynt gynyddu o gymharu 芒'r chwarter blaenorol.

'Prynu am y tro cyntaf yn anodd'

"Mae'r farchnad yn parhau i fod yn eithaf cryf a bywiog yng Nghymru," medd Mr Middleton, ond rhybuddiodd nad oedd hynny o reidrwydd yn newyddion da i bawb.

"Os ydych chi'n byw mewn t欧 ac yn ystyried symud i gartref llai o faint, mae prisiau cynyddol yn wych.

"Wedi dweud hynny, mae yna brynwyr tro-cyntaf sy'n cael trafferth ymuno 芒'r farchnad dai. Maen nhw'n gweld cost y t欧 mae nhw am brynu yn cynyddu, sy'n golygu mwy o flaendal mwy o forgais."

Dywedodd Mr Middleton fod perchnogion sy'n edrych ar symud i d欧 mwy hefyd yn wynebu prisiau uwch.

"Pan fyddwch chi'n ychwanegu cost cynyddol morgeisi, cyfraddau llog cynyddol a chostau cynyddol biliau trydan a thanwydd, mae'n rhoi mwy a mwy o bwysau nid yn unig ar brynwyr tro-cyntaf ond ar deuluoedd yn gyffredinol."

Galw mawr ym Mlaenau Gwent

Mae gwerthwyr tai ym Mlaenau Gwent wedi gweld cynnydd mawr yn y galw am dai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae prisiau tai yn boncyrs ar hyn o bryd,' medd Jeanne Fry-Thomas

"Mae'n boncyrs. Rwy'n si诺r nad dyna'r term cywir, a dweud y gwir, ond mae'n wallgof. Allwn ni ddim dod dros y peth," meddai Jeanne Fry-Thomas, cyfarwyddwr y gwerthwyr tai Bidmead Cook.

Mae tai yn gwerthu'n gyflym yn eu swyddfeydd yng Nglynebwy a Bryn-mawr.

"Rydym yn rhoi rhywbeth ar werth, ac o fewn diwrnod neu ddau mae gennym fwy nag un prynwr - mae gennym ni nifer o brynwyr yn aros i'w weld a gwneud cynigion arno. Nid yw pethau'n hongian o gwmpas," meddai Ms Fry-Thomas.

Mae gan brynwyr ddiddordeb mewn "pob pris, pob math o d欧, pob ardal," a dywedodd Ms Fry-Thomas eu bod yn dod o'r tu allan i'r ardal hefyd.

Parhau i ffynnu?

Mae Shaun Middleton o'r Principality yn rhagweld twf "cyson" er gwaethaf pwysau ar berchnogion tai oherwydd costau byw cynyddol.

"Ar hyn o bryd does dim arwydd ein bod ni'n wynebu gostyngiad ym mhrisiau tai, na chwalfa, na dim byd felly. Mae'r farchnad yn bendant wedi arafu ychydig ond mae'n ymddangos yn llawer mwy cyson.

"Rwy'n meddwl, tra bod hyder yn y farchnad swyddi, a thra bod mwy o alw o hyd am dai na'r cyflenwad sy'n dod, mae'n debyg y byddwn yn parhau i weld y cynnydd cyson hwn," ychwanegodd Mr Middleton.

Pynciau cysylltiedig