成人快手

Pryderon am ddigartrefedd yn sgil diffyg tai rhent

  • Cyhoeddwyd
Catrin, Corey a PerisFfynhonnell y llun, Corey Hampton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Catrin a Corey Hampton wedi bod yn chwilio am d欧 rhent yn ardal Yr Wyddgrug ers mis Ebrill

"Ma' cael hyd i d欧 rhent yn gwbl amhosib. Rydan ni wedi bod yn chwilio am wythnosau a dal i 'neud," medd Catrin Hampton.

Mae hi a'i g诺r Corey yn chwilio am d欧 yn ardal Yr Wyddgrug wedi i'r ddau gael swyddi gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn yr ardal.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd Ms Hampton bod y sefyllfa dai "yn ofnadwy".

"Dan ni ddim wir yn fussy, 'dan ni jyst eisiau lle iawn i fyw cyn gynted 芒 phosib. Mae un plentyn 20 mis gennym eisoes ac mae un arall yn cyrraedd ym mis Awst - felly 'dan ni braidd yn despret.

"Dan ni wedi ystyried prynu ond mae hynny'n anoddach gan fod tai wedi mynd mor ddrud ond does dim tai rhent ar gael chwaith - o bosib bod llai am fod pobl yn gwerthu gan bod y farchnad yn gry'.

"'Dan ni wedi gweld rhai ond dydyn nhw ddim yn neis iawn - 'dan ni ddim yn fussy ond jyst angen lle iawn yn ardal Yr Wyddgrug ond mae'n gwbl amhosib ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, Corey Hampton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Da ni ddim yn fussy dim ond angen lle iawn,' medd Catrin Hampton

Mae'r gwaith ymchwil newydd gan Sefydliad Bevan yn rhybuddio y gallai digartrefedd waethygu yn sgil prinder tai rhent ac maen nhw'n poeni'n benodol nad oes digon o dai fforddiadwy ar gael i bobl sy'n derbyn lwfans tai.

Mae 'na bryder hefyd nad yw'r lwfans wedi codi ers dwy flynedd a bod rhent wedi codi'n sylweddol yn y cyfnod hwnnw.

"Wrth i gostau byw barhau i gynyddu, mae'n dod i'r amlwg y bydd Cymru yn gweld lefelau uchel o ddigartrefedd yn y dyfodol agos," medd Hugh Kocan, swyddog polisi Sefydliad Bevan.

"Mae llywodraethau'r DU a Chymru angen gweithredu ar frys i atal cynnydd y bobl a fydd yn ddigartref. Rhaid sicrhau ar unwaith bod y lwfans tai yn codi'n unol 芒 chwyddiant.

"Os na ddigwyddith hyn bydd mwy o bobl yn byw mewn llefydd na sy'n ddiogel," ychwanegodd.

Dim un t欧 ar gael mewn rhai siroedd

Fe wnaeth Sefydliad Bevan gasglu data o 1,775 hysbysebion tai rhent ar draws Cymru - byddai'r lwfans tai ond yn ddigon i dalu am 24 - sef 1.4%.

Y tro diwethaf i'r ymchwil gael ei gynnal sef rhwng Mai a Rhagfyr 2021 roedd nifer y tai oedd ar gael i gwrdd 芒'r gofyn yn 2.7%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y tai rhent sydd ar gael i bobl sy'n cael lwfans tai wedi gostwng ers y llynedd

Mewn 15 awdurdod lleol yng Nghymru roedd cost rhent tai yn uwch na'r lwfans tai ac yn y siroedd eraill roedd nifer y tai rhent yn brin.

Dywedodd Jeanne-Fry Thomas, o gwmni arwerthwyr tai Bidmead Cook ym Mlaenau Gwent bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu.

"Mae yna ddeddfwriaeth newydd yn dod i mewn a fydd yn helpu i sicrhau fod pobl yn gallu rhentu tai da a diogel i fyw ynddynt ond mae'r gwaith papur y mae'n rhaid i landlordiaid ei wneud yn frawychus ac yn rhwystredig."

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu Rhentu Doeth Cymru yn 2015 er mwyn delio gyda landlordiaid gwael. Mae angen cwrdd 芒 gofynion penodol cyn gallu rhentu eiddo - ymhlith y gofynion mae sicrhau blaendaliadau, llenwi ffurflenni gwarantu a gwirio credyd.

Ychwanegodd Ms Fry Thomas bod nifer o landlordiaid ddim yn rhentu'n breifat mwyach yn sgil ansicrwydd sydd wedi cael ei greu gan Rhentu Doeth Cymru.

"Roedd newidiadau fod i ddigwydd fis nesaf ac mae nifer o landlordiaid wedi bod ar gyrsiau ond mae'r newidiadau bellach wedi'u gohirio am flwyddyn.

"Mae nifer o'r landlordiaid yma yn rhentu i bobl sy'n cael lwfans tai - mae'r galw am dai rhent yn enfawr.

"Mae'r nifer sy' 'na o dai rhent yn llai ac felly mae prisiau rhent yn codi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Steffan Evans: 'Mae argyfwng tai ym mhob cwr o Gymru'

Dywedodd Steffan Evans, pennaeth polisi tlodi Sefydliad Bevan: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos yn glir fod yna argyfwng tai ym mhob cwr o Gymru.

"Mae'n rhaid i Lywodraethau y DU a Chymru ddarparu mwy o gymorth i deuluoedd neu mae'n anorfod y bydd mwy o bobl yn wynebu digartrefedd dros y misoedd nesaf."

Pwysau i godi lwfans tai

"Yn bendant mae diffyg llety fforddiadwy i'w rhentu yn effeithio'r ardal hon yn gynyddol, sy'n adlewyrchu'r sefyllfa dros Gymru," meddai'r Cynghorydd Alun Llewelyn, dirprwy arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot sydd hefyd yn arwain ar faterion tai'r sir.

Mae gwaith ymchwil Sefydliad Bevan, meddai, yn dangos bod y Lwfans Tai Lleol "wedi methu cynyddu i'r un graddau 芒'r rhentu" a bydd y cyngor "yn gweithio gydag eraill i wasgu ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig", sy'n pennu'r lwfans, i'w gynyddu.

"Mae lefelau rhent bellach yn enbydus i lawer o deuluoedd ar incwm isel sy'n ymdrechu i gael hyd neu cadw gafael ar lety, ar ben holl heriau eraill codiadau costau byw," meddai Mr Llewelyn.

"Nid oes stoc tai gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn lleol, am i'r tai cyngor gael eu trosglwyddo i gymdeithas Tai Tarian rhai blynyddoedd yn 么l.

"Beth bynnag, byddwn yn cydweithio gyda'r cymdeithasau tai lleol i geisio gwella argaeledd tai fforddadwy, a trafod atebion arloesol gyda chynghorau eraill a Llywodraeth Cymru."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae rhentu cartref i rywun yn ymgymeriad pwysig ac mae gan denantiaid yr hawl i ddisgwyl gwasanaeth iawn yn gyfnewid am eu rhent.

"Mae'r mesurau yr ydym wedi'u cyflwyno i broffesiynoli'r sector yn sicrhau bod landlord yn 'berson addas a phriodol' ac yn helpu i amddiffyn tenantiaid.

"O dan y trefniadau Rhentu Cartrefi newydd, a fydd yn berthnasol, o 1 Rhagfyr 2022, rydym yn sicrhau bod cytundebau model ar gael am ddim i landlordiaid i'w helpu i gydymffurfio 芒'r ddeddfwriaeth."

Pynciau cysylltiedig