Rocio Cifuentes i olynu Sally Holland fel Comisiynydd Plant
- Cyhoeddwyd
Rocio Cifuentes, sy'n enedigol o Chile, fydd Comisiynydd Plant newydd Cymru.
Bydd Ms Cifuentes yn cychwyn yn y swydd ym mis Ebrill 2022 pan fydd cyfnod Sally Holland yn dod i ben.
Mae'r Comisiynydd yn gyfrifol am hyrwyddo a diogelu hawliau plant, a sicrhau bod polis茂au a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru o fudd i blant a phobl ifanc.
Ar hyn o bryd Rocio Cifuentes yw prif weithredwr T卯m Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), sef y prif sefydliad sy'n rhoi cymorth i gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.
'Mor bwysig ag erioed'
Wedi ei geni yn Chile, daeth Ms Cifuentes i Gymru yn flwydd oed gyda'i rhieni a oedd yn ffoaduriaid gwleidyddol.
Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn astudio Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol cyn ymgymryd 芒 Gradd Meistr mewn Ymchwil Gymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.
Bu'n arwain EYST ers y cychwyn cyntaf yn 2005. Cyn hynny, bu'n gweithio i Gyngor Cyrff Gwirfoddol Ethnig Leiafrifol Cymru a Phrosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe.
"Mae cael fy mhenodi'n Gomisiynydd Plant Cymru yn fraint ac anrhydedd o'r mwyaf," meddai Rocio Cifuentes.
"Mae r么l y Comisiynydd nawr cyn bwysiced ag y bu erioed, wrth i ni gyflawni ar gyfer y genhedlaeth o blant sydd wedi byw dan gysgod Covid-19.
"Rwy'n ymrwymo heddiw i sicrhau bod llais, safbwynt a dyfodol holl blant a phobl ifanc Cymru wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud."
Penodiad 'symbolaidd'
Mewn cyfweliad gyda 成人快手 Cymru, dywedodd Ms Cifuentes bod profiad ei theulu o ffoi rhag cyfundrefn y Cadfridog Pinochet, ac yna clywed hanesion pobl eraill o'i mamwlad yn Abertawe ble gafodd ei magu, wedi siapio'i chymeriad a'i gwerthoedd.
Cafodd ei thad ei garcharu a'i arteithio, ac roedd rhaid i'w rhieni "warchod eu bywydau eu hunain, a f'un i oherwydd cafodd llawer o fabanod eu lladd neu eu cymryd oddi ar eu teuluoedd".
Ychwanegodd: "Mae'r hyn sy'n fy ysgogi yn bendant wedi ei seilio ar fy mhrofiadau. Dyna pam rwy' wirioneddol eisiau gwneud gwahaniaeth positif a sicrhau mwy o gydraddoldeb cymdeithasol i bawb yng Nghymru."
Mae effaith "anghymesur" y pandemig ar blant yn destun pryder iddi, ac yn arbennig "sut y mae'r bwlch wedi tyfu" rhwng plant o deuluoedd mwy cefnog a rhai tlotach.
Bydd yn gweithio, meddai, i "sicrhau bod plant yn cael dechrau cyfartal, digon o fwyd ar y bwrdd... cartrefi addas a gallu dysgu mewn amgylchedd diogel".
Mae'n dweud bod angen mwy o bwyslais o fewn ysgolion ar "ailgodi gwytnwch" plant a'u teuluoedd na chanolbwyntio ar ddal i fyny yn addysgol.
Dywedodd hefyd bod Cymru "ar daith o ran deffro" i hiliaeth sefydliadol a bod penodi comisiynydd plant lleiafrif ethnig cyntaf Cymru'n "danfon neges gref ac yn eitha' symbolaidd".
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod r么l Comisiynydd Plant Cymru yn un hynod bwysig a'i bod yn bwysicach nawr nag erioed yn sgil y pandemig.
"Mae'r pandemig wedi amharu'n ddifrifol ar fywydau plant," meddai.
"Bydd y r么l yn helpu i lunio'r dyfodol i genhedlaeth o blant y mae'r coronafeirws wedi bod yn rhan enfawr o'u bywydau.
"Dyma pam ei bod mor bwysig parhau i gael llais cryf, fel bod rhywun yn eiriol dros blant ac yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau."
Fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd roi teyrnged i waith y Comisiynydd Plant presennol, Sally Holland.
"Mae Sally wedi bod yn eiriolwr cryf dros blant a phobl ifanc yng Nghymru - o wreiddio hawliau'r plentyn mewn darnau allweddol o ddeddfwriaeth i roi cipolwg i ni ar brofiadau plant yn ystod y pandemig, drwy'r arolygon eang 'Coronafeirws a fi' sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol.
"Mae Sally Holland wedi gwneud cyfraniad aruthrol i genhedlaeth o blant yng Nghymru, a fydd yn parhau am gyfnod hir iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018