成人快手

'Angen gwella cefnogaeth iechyd meddwl pobl ifanc ar frys'

  • Cyhoeddwyd
Sarah Wynne
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sarah Wynne yn cytuno bod angen mwy o gefnogaeth ar bobl ifanc

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dweud bod angen gwella'r gefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn argyfwng iechyd meddwl "ar frys".

Mae Sally Holland yn galw am "warchodfeydd" lle gall pobl ifanc fynd iddyn nhw pan fyddan nhw mewn argyfwng.

Dywed nad yw'n dderbyniol bod pobl ifanc 16 a 17 oed yn gorfod ffonio'r heddlu, mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys neu ddefnyddio gwasanaethau oedolion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "iechyd meddwl pobl ifanc yn brif flaenoriaeth".

Dywed yr Athro Sally Holland ei bod am weld "model hollol wahanol" o wasanaethau iechyd meddwl brys i bobl ifanc.

"Bu rhywfaint o waith gwych yn y gwasanaethau cymunedol ond yr hyn nad ydym wedi cracio o gwbl yn unrhyw le yng Nghymru yw'r hyn sy'n digwydd ar yr adeg honno mewn argyfwng - yn enwedig am 3 y bore neu 11 o'r gloch y nos," meddai.

Mae hi wedi cynnig cyflwyno lleoedd lle gallai pobl ifanc fynd pe byddan nhw mewn argyfwng neu'n teimlo'n anniogel, neu'n poeni y gallan nhw wneud niwed i'w hunain.

Dywedodd fod y model eisoes wedi'i gyflwyno mewn gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion ond nad oedd "unrhyw fodelau da" ar gyfer pobl ifanc mewn argyfwng.

'Mater brys iawn'

Yn ei hadroddiad blynyddol, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, mae Sally Holland hefyd yn dadlau bod yn rhaid i iechyd meddwl plant a phobl ifanc fod yn fwy o flaenoriaeth.

Mae'r gwasanaeth, meddai, wedi derbyn llai o arian o'i gymharu 芒 gwasanaethau iechyd meddwl oedolion.

"Mae'n fater brys iawn," meddai.

"Mae pobl ifanc yn dweud wrtha i eu bod nhw wedi cael profiadau ofnadwy, mae rhieni'n dweud bod yna adegau lle na allen nhw gadw'u plant yn ddiogel gartref ond hefyd nad oedden nhw'n teimlo bod ganddyn nhw le diogel i fynd 芒 nhw."

Ychwanegodd bod "clinigwyr wedi dweud eu bod yn gwybod nad oedden nhw'n darparu'r gofal iawn i blant mewn argyfwng, yn enwedig y tu allan i oriau".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sarah Wynne wedi dioddef gyda'i hiechyd meddwl ers yn blentyn

Gall lleoliadau oedolion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys beri gofid mawr i bobl ifanc mewn argyfwng.

Dywedodd teulu Sarah Wynne o Fro Morgannwg ei bod yn anhapus yn yr ysgol, a bod hynny wedi gwaethygu i deimladau o bryder ac o hunan-gas谩u.

Yn 13 oed, cafodd ddiagnosis o iselder a dywedodd fod yn rhaid iddi aros misoedd am unrhyw gymorth gan CAMHS a phan dderbyniodd gefnogaeth i ddechrau nid oedd o fudd.

Pan oedd hi'n 15 oed cymerodd orddos.

Dywedodd fod ganddi deimlad o ddatgysylltiad a chyn gynted ag y gwnaeth hynny fe wnaeth sylweddoli'r hyn yr oedd wedi'i wneud a "theimlo'n euog yn syth".

'Teimlo fel baich'

"Dwi ddim yn si诺r a oeddwn i eisiau marw mewn gwirionedd - roeddwn i eisiau i bopeth stopio am ychydig yn unig, dim ond er mwyn rhoi seibiant i mi," esboniodd Sarah, sydd bellach yn 19 oed.

Dywedodd wrth ei mam, a oedd yn feddyg teulu, a oedd yn gallu ei helpu ar unwaith a mynd 芒 hi i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Roedd aros yn yr ysbyty yn "ofnadwy", meddai.

Dywedodd Sarah, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerfaddon, ei bod yn teimlo nad oedd unrhyw un yn yr ysbyty yn poeni a'i bod hi'n "teimlo fel baich".

Ers hynny mae wedi derbyn cefnogaeth dda gan therapydd sydd wedi ei helpu i reoli ei chyflwr, meddai.

Mae'n gefnogol o'r syniad o warchodfeydd a dywedodd y byddan nhw'n gwneud "gwahaniaeth enfawr" yn enwedig pe bai pobl yn cael eu hyfforddi i siarad a gwrando ar oedolion ifanc.

Cytunodd Sarah hefyd 芒'r Athro Holland bod angen i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a phobl ifanc (CAMHS) wella hefyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Athro Sally Holland: 'Hoffwn weld cynnydd da ar hyn dros y flwyddyn nesaf'

Mae amseroedd aros pobl ifanc sy'n cael eu hapwyntiad cyntaf gyda gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a phobl ifanc wedi cynyddu.

Roedden nhw wedi lleihau ond ers i'r pandemig maen nhw wedi cynyddu eto.

Ym mis Gorffennaf 2021, bu'n rhaid i 60% o'r 720 a gyfeiriwyd at y gwasanaeth aros fwy na'r targed pedair wythnos i gael eu gweld am y tro cyntaf.

Yn y chwarter a ddaeth i ben Mehefin 2021, cafodd 54 o bobl o dan 18 oed eu cadw o dan Adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl, cynnydd o 29 ar y chwarter blaenorol.

Mae'r adrannau'n caniat谩u i'r heddlu fynd 芒 phobl sy'n s芒l yn feddyliol neu eu cadw mewn man diogel.

Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei ddweud?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae iechyd meddwl pobl ifanc yn brif flaenoriaeth i ni ac rydym wedi mwy na threblu buddsoddiad mewn ysgolion fel rhan o'n pwyslais ar ymyrraeth gynnar i atal yr angen am ofal argyfwng, mae hyn yn cynnwys cynyddu gwasanaethau cwnsela ysgolion.

"Yn ddiweddar, gwnaethom hefyd gyhoeddi 拢2.5m ychwanegol trwy wasanaethau gwaith ieuenctid a fydd yn cael eu darparu i awdurdodau lleol, i weithio gyda'r sector gwirfoddol i gyrraedd ystod ehangach o bobl ifanc.

"Mae 拢5.4m arall wedi'i ymrwymo eleni i gefnogi gwasanaethau CAMHS ymhellach i ddarparu mynediad amserol i gymorth iechyd meddwl i'n plant a'n pobl ifanc.

"Arhosodd gwasanaethau iechyd meddwl yn hygyrch yn ystod y pandemig ac eleni rydym wedi darparu 拢42m yn ychwanegol i wella gwasanaethau iechyd meddwl y GIG, gan gynnwys sefydlu cymorth argyfwng 24/7 i bob oed trwy 111."

Os ydych chi eisiau cymorth gyda rhai o'r pynciau a godwyd yn yr erthygl hon, ewch i wefan gymorth y 成人快手.

Pynciau cysylltiedig