成人快手

Gogledd 'ar frig y rhestr' am adweithydd niwclear bychan

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gorsaf B诺er WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw'r orsaf niwclear yn Wylfa ddim yn weithredol bellach - ond a fydd datblygiad newydd yn dod yno yn y dyfodol?

Mae gogledd Cymru "ar frig y rhestr" ar gyfer safleoedd posib i gwmni sydd eisiau adeiladu adweithyddion niwclear bychan (SMR) ar draws Prydain.

Dywedodd Rolls Royce SMR Limited fod safle Wylfa ar Ynys M么n yn "berffaith" ar gyfer datblygiad o'r fath, gyda Thrawsfynydd yng Ngwynedd hefyd dan ystyriaeth.

Ychwanegodd y prif weithredwr Tom Samson y gallai'r cynlluniau "drawsnewid cyfleoedd a ffyniant economaidd" yn y gogledd.

Ond mae gweinidog hinsawdd Llywodraeth Cymru wedi dweud nad ydy hi'n "bancio" ar ddibynnu ar ynni niwclear yn y dyfodol, er y gallai fod yn "rhan o'r gymysgedd" yn y dyfodol.

Gwagle ers Hitachi

Bwriad Rolls Royce yw adeiladu adweithyddion niwclear bychan fyddai'n llawer rhatach a chyflymach i'w hadeiladu na gorsafoedd niwclear traddodiadol.

Wrth siarad gyda 成人快手 Cymru o gynhadledd COP26 yn Glasgow, dywedodd Mr Samson y byddai'r safleoedd yn cyflogi pobl am 60-70 mlynedd, ac y byddai angen "rhwydwaith o ffatr茂oedd newydd" hefyd i adeiladu darnau ar eu cyfer.

"Mae SMRs hefyd yn cynhyrchu ynni glan, dibynadwy, cyson a chystadleuol o ran cost, felly mae potensial i ddenu busnesau eraill sydd angen llawer o ynni i'r ardal," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ansicrwydd am beth fydd dyfodol safle Wylfa yng ngogledd M么n ers i Hitachi dynnu yn 么l

Ychwanegodd fod safle fel Wylfa yn "barod" ar gyfer y fath ddatblygiad eisoes, ac y gallai weithio ochr-yn-ochr a chwmn茂au fel Bechtel o'r UDA sydd wedi dangos diddordeb mewn datblygu gorsaf niwclear fwy traddodiadol yno.

Mae'r safle hwnnw bellach yn wag wedi i Hitachi dynnu yn 么l o'u cynlluniau nhw yn 2019 ar gyfer adeiladu Wylfa Newydd.

Mynnodd hefyd fod gwastraff o orsafoedd niwclear yn cael ei storio'n saff, er nad yw'r Deyrnas Unedig wedi dod o hyd i ddatrysiad eto ar gyfer beth i'w wneud yn y tymor hir gyda'r broblem.

"Gyda gwastraff 'dyn ni wedi defnyddio hynny fel dadl am beidio datblygu niwclear ar raddfa eang 20-30 mlynedd yn 么l, ac felly wedi creu cymaint mwy o allyriadau CO2," meddai Mr Samson.

'Meddwl agored'

Yn y cyfamser mae gweinidog hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James, wedi dweud y gallai ynni niwclear fod yn "rhan o'r gymysgedd" o ffynonellau egni yn y dyfodol.

Ond dywedodd fod ganddi "feddwl agored" ar y mater, ac nad oedd hi'n bosib "bancio ar y peth".

"Bydd hi'n ddiddorol gweld beth mae gwyddonwyr yn ei gynnig, a beth sy'n bosib i Gymru," meddai wrth siarad 芒 rhaglen 成人快手 Wales Live.

Ychwanegodd fod gan niwclear y fantais o gynnig ynni cyson i'w gyflenwi, ond fod Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried opsiynau eraill oedd yn cynnig hynny, fel morlynnoedd llanw.