Trafodaethau newydd i ddatblygu gorsaf b诺er niwclear ym M么n
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau cychwynnol gyda grwpiau allai fod 芒 diddordeb adeiladu gorsaf b诺er niwclear newydd ar Ynys M么n, yn 么l uwch swyddog.
Fis Ionawr fe wnaeth cwmni Horizon dynnu 'n么l o gynlluniau i adeiladu Wylfa Newydd, gan nodi diffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU fel un o'r rhesymau.
Fe ddaeth hynny wedi i Hitachi, sy'n berchen ar Horizon, dynnu eu cefnogaeth i'r cynllun gwerth 拢20bn ym Medi 2020.
Dywedodd Declan Burke o adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chwmn茂au arall sy'n cynnig datblygu gorsaf niwclear ym M么n er mwyn "deall y cynigion yn well".
Roedd Mr Burke, cyfarwyddwr prosiectau a datblygiadau niwclear gyda'r adran, yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Iau.
'Cynigion i ddatblygu'r safle'
Dywedodd fod y trafodaethau "cychwynnol" yn cael eu cynnal gyda chwmn茂au "sydd wedi gwneud cynigion i ddatblygu'r safle".
Ychwanegodd fod trafodaethau wedi'u cynnal 芒 chonsortiwm o'r Unol Daleithiau oedd yn cynnwys cwmni peirianneg Bechtel, sy'n cynnig adeiladu gorsaf b诺er niwclear Westinghouse AP1000.
Maen nhw hefyd wedi trafod 芒 chwmni Prydeinig Shearwater Energy, sydd 芒 chynlluniau ar gyfer adweithyddion niwclear bychan a fferm wynt.
Yn gynharach roedd Barbara Rusinko o gwmni Bechtel wedi disgrifio Ynys M么n fel "y safle gorau yn y DU i adeiladu gorsaf b诺er niwclear ar raddfa fawr".
Galwodd hi ar y Canghellor Rishi Sunak i ymrwymo i'r prosiect yn ei adolygiad gwariant am y tair blynedd nesaf pan fydd hynny'n cael ei gyhoeddi fis nesaf.
'Dibynnu ar y pris'
Dywedodd Simon Forster o gwmni Shearwater y byddai eu cynllun nhw yn rhatach a'u bod wedi cynnal trafodaethau lleol a chenedlaethol yngl欧n 芒'u cynnig.
Ond ychwanegodd eu bod wedi cadw hynny'n ddistaw am fod disgwyliadau wedi cael eu codi yn yr ardal yngl欧n 芒 phrosiectau o'r fath yn y gorffennol.
"Mae'n dibynnu ar benderfyniadau ac yn dibynnu ar y pris," meddai wrth y pwyllgor.
Ychwanegodd Mr Forster bod angen i Hitachi, sy'n berchen ar y safle, a Llywodraeth y DU ddod ynghyd er mwyn gwneud penderfyniad ar ddyfodol y diwydiant ynni ar Ynys M么n.
'Y safle gorau yn y DU'
Mae Aelod Seneddol Ynys M么n, Virginia Crosbie wedi rhoi croeso gofalus i'r newyddion, gan ddweud mai dyma'r "arwydd cyntaf tuag at ddatblygu ynni niwclear yn Wylfa ers i Horizon dynnu 'n么l".
"Fe wnes i gwrdd 芒 Bechtel yn yr haf ac rwy'n gwybod eu bod nhw o ddifrif am ddatblygu'r safle, ond mae'n rhaid i'r amodau ariannol fod yn iawn iddyn nhw ac i'r trethdalwr," meddai.
"Mae un peth yn sicr - Wylfa Newydd ydy'r safle gorau yn y DU ar gyfer gorsaf b诺er niwclear ac mae'n rhaid iddo gyflawni'r potensial hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod gan ynni niwclear ran "allweddol" i'w chwarae wrth symud i ffwrdd o danwydd ffosil.
Ychwanegodd bod y llywodraeth eisiau cymeradwyo "o leiaf un cynllun niwclear ar raddfa fawr" dros dymor y senedd.
"Rydym yn adnabod pwysigrwydd ein gallu i gynhyrchu ynni yng Nghymru a dros y DU a sicrhau gweithlu gyda sgiliau yn y sector."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd16 Medi 2020
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020