Galw am eglurder ar drefn arholiadau 2022 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae athrawon ac undebau addysg yn dweud bod angen eglurder am ddyfodol arholiadau yng Nghymru, yn dilyn y pwysau "hollol hurt" sydd ar athrawon ar hyn o bryd.
Ni chafodd arholiadau eu cynnal y llynedd oherwydd y pandemig gydag athrawon yn asesu graddau myfyrwyr, a'r un ydy'r drefn eleni.
Mae staff wedi dweud bod eu pwysau gwaith yn ormodol, ac mae un undeb wedi dweud bod angen eglurder yngl欧n ag arholiadau haf 2022 cyn diwedd y tymor hwn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod eisoes yn gweithio ar y trefniadau ar gyfer 2022.
'Ein bai ni ydy o'
Dywedodd un athro, oedd ddim eisiau cael ei enwi, wrth 成人快手 Cymru: "Mae'r baich ar yr athrawon, felly os dydy disgyblion ddim yn derbyn y radd maen nhw eisiau, ein bai ni ydy o, ac os dydyn nhw ddim yn cael eu derbyn i'r brifysgol maen nhw eisiau, arnom ni mae hynny.
"Mae'n lot o bwysau a stress.
"Mae'r pwysau gwaith mae hyn wedi'i roi ar athrawon yn hollol hurt - mae rhai cydweithwyr wedi mynd i ffwrdd gyda salwch oherwydd y pwysau."
Mae pryderon o'r math yma wedi eu gwneud gan eraill hefyd, gydag un prifathro yn Sir Fynwy yn dweud bod athrawon wedi gorfod gwneud 30,000 o asesiadau gradd yn ei ysgol ef.
Dywedodd yr athro fu'n siarad gyda 成人快手 Cymru ei fod hefyd yn feirniadol nad ydy athrawon yn derbyn mwy o d芒l ar gyfer marcio asesiadau - rhywbeth y bydden nhw wedi'i dderbyn pe bydden nhw'n marcio arholiadau arferol.
Mae deiseb wedi cael ei lansio yn galw am dalu bonws ariannol i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol yn ystod yr haf.
'Hunllef' i athrawon
Fis diwethaf fe wnaeth prif weithredwr CBAC, Ian Morgan, gydnabod fod ymateb "weddol gymysg" wedi bod i'r system raddio eleni.
"Ond rwy'n credu bod y system sy'n dod at ei gilydd yn ceisio darparu'r ffordd orau posib o dan amgylchiadau anodd iawn," meddai.
Dywedodd undeb NASUWT bod y pwysau ychwanegol eleni wedi bod yn "hunllef" i athrawon, ond ei bod yn hyderus bod y graddau yn deg.
"Fe fyddwn ni yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill i drafod yr hyn fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, ond o safbwynt yr athrawon rydyn ni'n eu cynrychioli, mae hyn oll wedi bod yn hunllef," meddai Neil Butler o'r undeb.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y broses eleni yn "rhoi hyder mewn ysgolion a cholegau" i asesu'r radd y dylai disgyblion ei derbyn.
Ychwanegodd fod "athrawon a darlithwyr wedi dangos hyblygrwydd a phenderfynoldeb i ddatblygu a chyflawni'r system yma".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynlluniau ar gyfer asesiadau 2022 yn "cael eu datblygu ar hyn o bryd", gyda'r nod o leihau'r meysydd fydd yn cael eu hasesu i gydnabod nad ydy dysgwyr wedi gallu cyflawni'r cwricwlwm llawn oherwydd y pandemig.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru eu bod yn cynllunio gyda'r disgwyl y bydd arholiadau yn cael eu cynnal yn haf 2022, os na fydd y pandemig yn cael mwy o effaith yn y flwyddyn nesaf.
"Er hynny, rydyn ni'n gwybod y gall pethau newid yn sydyn felly ry'n ni'n ystyried opsiynau arall o ran asesu pe bai angen," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021