'Dylai disgyblion a rhieni gael hyder' medd y gweinidog
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai disgyblion a rhieni yng Nghymru gael hyder yn y ffordd mae graddau'n cael eu pennu eleni, yn 么l y gweinidog addysg newydd.
Ysgolion a cholegau fydd yn penderfynu ar raddau TGAU a Safon Uwch ar 么l i arholiadau gael eu canslo.
Mae penaethiaid ac undebau'n dweud bod yna ormod o faich ar ddisgyblion ac athrawon.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bod y cydbwysedd cywir wedi ei daro mewn amgylchiadau "heriol dros ben".
'Llwyth gwaith rhyfeddol'
Mae 'na bryder bod y system yn rhoi gormod o bwysau ar ddisgyblion sy'n wynebu dwsinau o asesiadau wrth i athrawon gasglu tystiolaeth fel sail i'r graddau.
Yn ogystal, mae Hugo Hutchison, pennaeth Ysgol Gyfun Trefynwy, yn dweud bod y llwyth gwaith yn "rhyfeddol".
"Mae angen i ni fel ysgol ddyfarnu tua 30,000 o raddau i fyfyrwyr.
"Ar gyfer pob un o'r 30,000 gradd hynny mae angen i ni ysgrifennu cofnod pwnc unigol. Mae'n waith aruthrol," ychwanegodd.
"Ac ar gyfer pob un o'r graddau hynny, mae nifer o asesiadau hefyd, nifer o bapurau sy'n cyfrif tuag ato."
Dywedodd Mr Hutchison ei fod yn teimlo bod y broses asesu eleni fel "adeiladu awyren, tra ein bod eisoes yn ei hedfan".
Ychwanegodd fod y myfyrwyr hefyd dan "bwysau aruthrol".
"Maen nhw wedi cael amser anhygoel o anodd dros y 18 mis diwethaf," meddai.
Wrth ymweld ag Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful, Merthyr Tudful fe ddywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y dylai pobl gael hyder yn y system er gwaethaf problemau llynedd.
"Da ni'n cario'r egwyddor a wireddwyd flwyddyn ddiwetha' - hynny yw bo ni'n gofyn i athrawon ddefnyddio'u penderfyniadau proffesiynol nhw am safonau eu dysgwyr nhw a gwneud hynny ar sail ystod o dystiolaeth wrth gwrs.
"Ma' hyblygrwydd yn y system i sicrhau bod y dystiolaeth yn gallu adlewyrchu amgylchiadau'r ysgol, amgylchiadau dysgwyr unigol o ran tegwch ac rwy'n credu wrth gael ffydd ym mhenderfyniadau proffesiynol athrawon sydd wrth galon hyn mae hynny'n rhoi cysur a hyder i bobl yn y system."
Ond mae Rebecca Williams o undeb UCAC yn dweud bod athrawon yn "gwegian" yn sgil y pwysau ychwanegol mae'r broses asesiadau wedi rhoi arnyn nhw.
"Mae'r system yma wedi gwasgu gormod ar y staff hynny ar adeg sydd eisoes wedi bod yn heriol iawn i bawb," meddai.
Dywedodd bod y llwyth gwaith yr oedd y corff arholi CBAC yn arfer ei wneud wedi ei drosglwyddo i ysgolion a cholegau.
"Mae ysgolion wedi gosod yr asesiadau, marcio'r asesiadau, dyfarnu graddau, cymedroli, cofnodi popeth. Bydd ysgolion hefyd yn delio gydag apeliadau yn y lle cyntaf ac mi allai hynny fod yn waith ychwanegol aruthrol iddyn nhw," meddai.
Mae prif weithredwr CBAC, Ian Morgan, yn dweud ei fod yn derbyn bod ymateb "weddol gymysg" i'r system raddio eleni.
"Rwy'n deall ei fod yn heriol, dydw i ddim yn cerdded i ffwrdd o'r her y mae wedi'i chreu," meddai.
"Ond rwy'n credu bod y system sy'n dod at ei gilydd yn ceisio darparu'r ffordd orau posib o dan amgylchiadau anodd iawn."
Ychwanegodd Mr Morgan fod ysgolion a cholegau wedi cael "hyblygrwydd" i ddefnyddio ystod o ffynonellau ar gyfer y broses o gasglu tystiolaeth.
"Rwy'n meddwl o safbwynt y dysgwyr, mae dysgwyr eisiau tegwch, ac o safbwynt rhiant, mae rhieni eisiau gwybod bod dysgwyr yn cael eu trin yn deg ac yn briodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021