成人快手

Prynu t欧 yn 'freuddwyd amhosib' i nifer

  • Cyhoeddwyd
Alys Patosit a'i theuluFfynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Alys Patosit dair swydd, ond mae'n dweud bod prynu t欧 allan o'i gafael

Mae prynu t欧 yn "freuddwyd amhosib" i nifer o rieni sy'n gweithio yng Nghymru, meddai tair elusen.

Roedd bron hanner y perchnogion tai a ddefnyddiodd y cynllun Cymorth i Brynu yn 2020/21 yn ennill o leiaf 拢40,000.

Dywed Sefydliad Joseph Rowntree bod y tystiolaeth yn awgrymu nad yw'r cynllun "yn helpu pobl ar incwm is".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bydd rhan newydd y cynllun yn helpu cefnogi'r rheiny "sydd ei angen fwyaf".

Mae Alys Patosit, 41, a'i g诺r Pin, 48, yn byw yn Sir Fynwy gyda'u dau blentyn.

Mae Mrs Patosit yn gweithio'n rhan amser fel cynorthwyydd gweinyddol a gofalwr i bobl h欧n, yn ogystal 芒 rhedeg busnes ei hunan ar-lein, ond dywedodd efallai na fydd ei theulu byth yn gallu fforddio cartref ei hunan, dim ots pa mor galed y maen nhw'n gweithio.

"Ers i fi ddychwelyd i'r gwaith ar 么l cael fy mhlant dwi wedi ffeindio fy hun yn gweithio tair swydd a dwi dal yn gorfod hawlio Credyd Cynhwysol i ddod yn gyfartal, yn ein gadael ni gyda dim byd ar 么l i gynilo," meddai.

"Rydyn ni'n breuddwydio o allu fforddio cartref cymedrol yn yr ardal fe dyfais lan ynddi, ond rydyn ni'n teimlo ein bod wedi ein dal mewn cylch ac mae cael y sicrwydd o gartref yn teimlo'n amhosib, weithiau mae'n teimlo'n hollol anobeithiol."

Beth yw'r cynllun Cymorth i Brynu?

Mae'r cynllun Cymorth i Brynu yn caniat谩u i'r rheiny sy'n gymwys i brynu t欧 sydd wedi ei adeiladu o'r newydd sy'n werth hyd at 拢250,000 gyda chymorth o Lywodraeth Cymru.

Ers mis Ionawr 2014, mae 11,959 o dai wedi cael eu prynu yn defnyddio'r cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru.

Daeth adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru am y cynllun i'r casgliad bod y gyfran o dai oedd wedi cael eu talu amdanyn nhw yn llawn gan bobl ar incymau uwch, dros y tair blynedd diwethaf, wedi cynyddu.

"Yn ystod 2020-21, cafodd 49% o'r tai a gafodd eu prynu trwy'r cynllun eu prynu gan bobl ag incwm t欧 ar gyfartaledd o 拢40,000 i 拢60,000," yn 么l yr adroddiad.

"O gymharu 芒 hyn, mae tai a gafodd eu prynu gan y rheiny ar incwm sy'n is na 拢20,000 wedi gostwng yn flynyddol ac yn 2020-21 roedd y rhain ond yn cyfri am 2% o dai oedd wedi cael eu talu amdanyn nhw'n llawn trwy'r cynllun."

Beth yw tai fforddiadwy?

Dywedodd Carmen Jackson, cydlynydd prosiect 'Helpu Teuluoedd sy'n Gweithio,' sy'n cael ei redeg gan 成人快手-Start ar draws Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Chaerffili: "Mae cartrefi yn bwnc sy'n cael ei drafod yn aml gyda nifer o'n teuluoedd.

"Mae teimladau cryf am y sefyllfa bresennol. Mae nifer o deuluoedd yn teimlo bod bod yn berchen a th欧 i'w teulu nhw yn freuddwyd hollol amhosib.

"Rydyn ni wedi canfod yn rhai rhanbarthau bod y nifer o dai cymdeithasol sydd ar gael yn isel, sy'n creu galw am dai sy'n cael eu rhentu, sy'n gwthio fyny prisoedd y tai sy'n cael eu rhentu, sy'n arwain at fuddsoddwyr yn prynu tai i'w rhentu a'n gwneud bod yn berchen a th欧 yn afrealistig i bawb ond y mwyaf cefnog."

Ychwanegodd fod tai fforddiadwy ond yn fforddiadwy pan mae'r ddau riant yn gweithio'n llawn amser ar gyflog da neu'n cael cymorth arwyddocaol o deulu.

Ffynhonnell y llun, PA Media

'Roedd y straen yn ormod'

Fe brynodd Eve (oedd ddim am i ni ddefnyddio'i chyfenw), ei g诺r a'i thri phlentyn gartref trwy'r cynllun Cymorth i Brynu, ond roedden nhw'n siomedig.

"Dyw syniad y llywodraeth o beth sy'n fforddiadwy ac incwm y rhan fwyaf o deuluoedd ddim yn cyfateb," meddai Eve.

"Fe ddiweddon ni lan yn prynu t欧 sy'n rhy fach ar gyfer ein teulu ac mae angen lot o waith arno, a dydyn ni methu fforddio gwneud y gwaith, ond doedd gyda ni dim dewis.

"Mae rhentu'n lleol yn rhy ddrud... roedd y straen yn effeithio arnom."

Dywedodd Dr Steffan Evans, swyddog polisi ac ymchwil y Sefydliad Bevan: "Mae yna gwestiynau wedi bod am amser hir am a ydy Cymorth i Brynu yn gynllun sy'n helpu gwella argaeledd tai sy' wir yn fforddiadwy.

"Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn ychwanegu at y pryderon yma. Gall buddsoddi'r arian mewn rhaglenni eraill fel y Grant Tai Cymdeithasol, sy'n ariannu adeiladu tai newydd cymdeithasol, fod yn ddefnydd llawer fwy effeithiol o arian Llywodraeth Cymru."

'Dyw e ddim yn gywir'

Ffynhonnell y llun, Sefydliad Joseph Rowntree
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Rachel Casey o Sefydliad Joseph Rowntree nad yw cefnogaeth yn cael ei rhoi i'r bobl sydd ei hangen fwyaf

Dywedodd Rachel Casey, swyddog polisi a phartneriaeth Sefydliad Joseph Rowntree: "Hyd yn oed cyn y coronafeirws, roedd tua 700,000 o bobl yng Nghymru wedi eu dal mewn tlodi. Gyda chyflogau isel a lefelau annigonol o fudd-daliadau, mae rhent uchel preifat yn cadw pobl yng Nghymru mewn tlodi.

"Felly dyw e ddim yn gywir bod y rhan fwyaf o'r gefnogaeth o fewn y farchnad dai ar hyn o bryd yn cael ei gyfarwyddo tuag at bobl sydd ddim yn byw mewn tlodi ac sydd o bosib yn barod yn berchen eu t欧 ei hunan.

"Mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'r cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru yn helpu pobl ar incymau is i ddod yn berchennog t欧, ond yn lle yn cefnogi pobl ar incymau uwch.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall yr anawsterau mae prynwyr tai cyntaf yn wynebu ac ansicrwydd y farchnad swyddi o ganlyniad i'r pandemig.

"Mae cynllun Cymorth i Brynu Cymru yn chwarae r么l bwysig trwy helpu pobl i brynu t欧 gyda thri-chwarter o'r 12,000 o dai sy'n barod wedi eu rhyddhau trwy'r rhaglen yn mynd i brynwyr tai cyntaf.

"Cafodd rhan 3 o'r cynllun Cymorth i Brynu Cymru ei lansio'r mis diwethaf ac mae wedi cael ei ddylunio i sicrhau bod y cynllun yn buddio'n bellach y rheiny sydd ei angen y mwyaf er mwyn sicrhau perchnogaeth t欧."