³ÉÈË¿ìÊÖ

Canslo arholiadau TGAU, AS a Safon Uwch yng Nghymru yn 2021

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth yw barn disgyblion ar ganslo arholiadau?

Mae holl arholiadau TGAU, AS a Safon Uwch yng Nghymru yn 2021 wedi cael eu canslo.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y bydd graddau'n seiliedig ar asesiadau a gwaith cwrs.

Mae'n amhosib gwarantu chwarae teg i bawb mewn arholiadau, meddai, oherwydd effeithiau parhaus y pandemig.

Ychwanegodd y byddai arweinwyr ysgolion a cholegau yn gweithio ar "ddull cenedlaethol" i sicrhau cysondeb.

Bydd asesiadau yn cael eu gwneud o dan oruchwyliaeth athrawon, ond fydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol, a byddan nhw'n dechrau yn ail hanner tymor y gwanwyn.

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Cymwysterau Cymru eu bod wedi rhoi cyngor i'r gweinidog ar yr hyn maen nhw'n ei gredu ydy'r "dull asesu decaf".

"Rydym yn cydnabod bod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd ac nad oes atebion hawdd," meddai llefarydd.

Cymru ydy'r unig ran o'r DU hyd yn hyn i gael gwared ar arholiadau yn gyfan gwbl.

Ond dywed Kirsty Williams fod y llywodraeth wedi ymgynghori â phrifysgolion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kirsty Williams yn cyfarfod myfyrwyr TGAU ym mis Awst

Wrth gadarnhau'r penderfyniad, dywedodd Ms Williams fod y llywodraeth yn "canolbwyntio ar les y dysgwyr a sicrhau tegwch ar draws y system".

"Rydyn ni'n dal i obeithio y bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn gwella, ond y prif reswm dros fy mhenderfyniad yw sicrhau tegwch; bydd y cyfnod o amser y gall dysgwyr yn ei dreulio yn yr ysgol neu'r coleg yn amrywio'n fawr iawn ac, yn y sefyllfa hon, mae'n amhosib gwarantu tegwch i bawb mewn arholiadau.

"Rydyn ni wedi ymgynghori â phrifysgolion ar draws y DU, ac maen nhw wedi cadarnhau eu bod wedi arfer derbyn nifer o wahanol fathau o gymwysterau.

"Maen nhw'n disgwyl trefniadau cadarn a thryloyw, sy'n darparu tystiolaeth o wybodaeth a gallu'r dysgwyr.

"Mae'r dull gweithredu rydyn ni'n bwriadu ei ddilyn yn cynnig hynny, gan ei fod wedi'i lunio i roi gymaint o amser â phosib i addysgu a dysgu.

"Bydd canslo'r arholiadau hefyd yn golygu bod amser ar gael i'r addysgu a dysgu barhau drwy gydol tymor yr haf er mwyn cynyddu gwybodaeth, gwella sgiliau a chodi hyder ein dysgwyr ar gyfer eu camau nesaf."

Uwchlaw popeth, fe fydd 'na ryddhad mewn ysgolion, colegau a chartrefi bod 'na benderfyniad am yr arholiadau wedi'r holl ansicrwydd.

Ond nawr mae'r sylw'n troi at sut fydd disgyblion yn cael eu hasesu ar gyfer eu graddau.

Mae sefydlu proses deg i wneud hynny yn dasg sylweddol a sicrhau cysondeb ar draws Cymru yn un o'r prif heriau.

Cymru yw'r unig rhan o'r Deyrnas Unedig i ganslo arholiadau yn gyfan gwbl.

Ond mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod yn hyderus na fydd hynny'n broblem i brifysgolion wrth ystyried canlyniadau Safon Uwch.

'Canslo mewn enw yn unig'

Fe groesawodd David Evans, Ysgrifennydd Undeb Addysg Cymru y cyhoeddiad gan ddweud ei fod yn "hanfodol nad ydym yn ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yr haf hwn, a oedd yn eithriadol o anodd i'r rhai a ddylai fod wedi bod yn sefyll arholiadau".

"Rhaid i ni sicrhau bod gan bobl ifanc broses asesu gyson ar waith sy'n golygu bod eu galluoedd yn cael eu cydnabod ar gyfer eu camau nesaf," meddai.

"Ond rhaid i hyn beidio â golygu gwaith ychwanegol i bawb dan sylw - staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae'r system addysg eisoes yn ei chael hi'n anodd.

"Dim ond tymor a hanner sydd gennym i bobl ifanc cyn dyfarnu graddau'r haf nesaf. Felly mae angen cymaint o hyblygrwydd â phosib yn y system nawr, gan ein bod ni'n gwybod nad yw hon yn flwyddyn arferol, a bydd pobl ifanc yn debygol o gael adegau pan maen nhw gartref yn dysgu."

Mae undeb NAHT Cymru yn pryderu bod arholiadau wedi'u canslo "mewn enw yn unig".

Dywedodd llywydd yr undeb, Ruth Davies: "Mae wedi'i gyhoeddi y bydd disgyblion yn parhau i wynebu profion sydd wedi'u gosod a'u marcio yn allanol, ond bod hynny yn y dosbarth.

"Dydyn ni ddim yn allu deall sut bod hynny ddim yn arholiad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i fyfyrwyr dderbyn eu canlyniadau dan amgylchiadau gwahanol eleni

Dywedodd Rebecca Williams, is-ysgrifennydd cyffredinol a swyddog polisi undeb UCAC y bydd y cyhoeddiad yn "rhyddhad o'r mwyaf i ysgolion ledled Cymru".

"Mi fydd yn bwysig cael y penderfyniadau'n gywir yn arbennig o safbwynt faint o'r trefniadau'n sy'n digwydd yn fewnol yn yr ysgolion a faint o rôl fydd gan CBAC neu eraill er mwyn sicrhau cysondeb," meddai.

"Pwyswn fodd bynnag am argymhellion a phenderfyniadau buan - yn ddelfrydol erbyn diwedd 2020 - i ganiatáu i ysgolion rhoi'r trefniadau priodol yn eu lle, ac i ddisgyblion gael deall sut byddant yn cael eu hasesu.

"Tra bod ansicrwydd yn para, bydd athrawon a disgyblion yn parhau i bryderu."

Beth ydy ymateb y gwrthbleidiau?

Dywedodd Suzy Davies MS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg: "Roedd y sefyllfa eisoes wedi drysu yn dilyn yr adolygiad i dymor arholiadau 2021 yng Nghymru gan Gymwysterau Cymru a alwodd am i rai arholiadau fynd yn eu blaenau, tra bod ail adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn galw am ddileu arholiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

"Y mater hanfodol i mi yw bod asesiadau'n cael eu gosod yn allanol a'u marcio'n allanol.

"Bydd hyn yn rhoi rhywfaint o gymaroldeb iddyn nhw ag arholiadau blynyddoedd blaenorol ac yn amddiffyn athrawon rhag unrhyw gyhuddiadau o ragfarn anfwriadol.

"Yr hyn a oedd yn fy mhoeni am yr adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru oedd lefel y gwaith ychwanegol y byddai'n rhaid i athrawon ei wneud ar adeg pan fyddan nhw'n dal i fyny trwy Covid ac yn mynd i'r afael â'r cwricwlwm newydd.

"Mae'n drueni nad yw myfyrwyr Safon Uwch yn cael cyfle i sefyll o leiaf un arholiad.

"Hon fydd yr ail flwyddyn lle na fydd gan fyfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr coleg y profiad o sefyll arholiadau pan fyddan nhw'n cystadlu am leoedd prifysgol gydag eraill sydd wedi."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Adam Price

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Adam Price

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ei fod yn falch bod y llywodraeth "wedi gwrando ar ein galwadau".

"Allwn ddim ailadrodd yr hyn ddigwyddodd dros yr haf fyth eto," meddai.

"Gan obeithio y bydd hyn yn dod â thawelwch meddwl i fyfyrwyr ac athrawon ledled Cymru."

Mae plaid Independent Alliance for Reform wedi galw ar y llywodraeth i ailystyried ac i ganiatáu i ddisgyblion sefyll arholiad os ydyn nhw eisiau gwneud hynny.

"Ar ôl ffiasgo canlyniadau TGAU a Safon Uwch yr haf diwethaf, ni allwn fentro i fyfyrwyr Cymru gael eu siomi eto gan benderfyniad Llywodraethau Cymru i sgrapio arholiadau," meddai Mandy Jones AS.

"Derbyniodd llawer o fyfyrwyr raddau is na'r disgwyl ar ôl cael gwared ar eu hawl i sefyll arholiadau ac felly mae'n hanfodol ein bod yn caniatáu'r dewis i fyfyrwyr Cymru sefyll y set nesaf o arholiadau os ydyn nhw'n dymuno."