Galwad undebau am flaenoriaethu profion i staff ysgolion
- Cyhoeddwyd
Dylai pawb sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru gael blaenoriaeth wrth geisio am brawf coronafeirws, yn 么l undebau.
Maen nhw'n dweud fod cynllunio o ran staff yn anodd oherwydd y bygythiad parhaol sy'n codi gan nad ydy staff yn gallu cael profion.
Mae rhwydwaith brofi y DU wedi bod dan bwysau yn yr wythnosau diwethaf, gyda rhai yn methu cael profion ac eraill yn gorfod teithio pellteroedd.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd pob ysgol yma yn derbyn pecynnau profion.
Mae dwsinau o ysgolion ledled Cymru wedi gorfod anfon eu plant adref oherwydd achosion Covid-19.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod o leiaf 50 o ysgolion wedi eu heffeithio.
Tra bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gyfrifol am brofion eu hunain, mae profion eraill yn cael eu gwneud drwy gynllun Labordai Goleudy'r DU.
'Blaenoriaeth'
Mae undebau athrawon yr NEU, UCAC a'r NASUW, undebau'r prif athrawon yr NAHT a ASCL ynghyd ag undebau GMB, Unsain ac Unite, wedi mynegi eu pryderon mewn llythyr ar y cyd.
"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru yn gryf i gynnwys holl weithlu ysgolion fel gr诺p sy'n cael blaenoriaeth ar gyfer profion," meddai'r llythyr at y prif weinidog, Mark Drakeford.
"Mae cadw ysgolion ar agor ac wedi eu staffio'n ddigonol yn flaenoriaeth i ddisgyblion ar hyd Cymru ac oherwydd ffactorau economaidd ehangach."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd pob ysgol yng Nghymru yn derbyn pecynnau profion.
"Fe fydd profion gan y gwasanaeth iechyd sydd ar gael yn gyflym hefyd yn cefnogi ysgolion unigol, pan fo angen.
"Mae hefyd yn bwysig nodi mai dim ond staff sydd 芒 symptomau coronafeirws ddylai geisio am brawf a hunan-ynysu."
Mae'r 成人快手 wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020