Llyncdwll 'wedi'i achosi gan dirlithriadau Storm Bert'
- Cyhoeddwyd
Tirlithriadau yn sgil Storm Bert wnaeth achosi i lyncdwll agor yng nghanol stad o dai ger Merthyr Tudful dros y penwythnos, yn 么l arweinydd y cyngor sir.
Mae trigolion yst芒d Nant Morlais ym mhentref Pant - sy'n cynnwys tua 30 o dai - wedi gorfod gadael eu cartrefi am y tro wedi i ffos gwympo gan greu twll mawr.
Mae'r stad, sy'n ffordd bengaead (cul-de-sac), wedi ei chau ac mae yna gyngor i bobl osgoi'r ardal.
Yn 么l arweinydd Cyngor Merthyr Tudful Brent Carter, nid yw hi'n glir pryd y bydd modd i drigolion ddychwelyd i'w cartrefi ar hyn o bryd.
Dywed Heddlu De Cymru a Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru eu bod wedi cael gwybod am y sefyllfa fore Sul.
Yn 么l Mr Carter, y gred yw dod y broblem wedi'i achosi gan ddau dirlithriad a ddigwyddodd yn sgil Storm Bert.
鈥淕yda鈥檙 storm, mae鈥檙 d诺r wedi dod yn syth i lawr drwy鈥檙 twnnel ac mae hynny wedi achosi鈥檙 cwymp ddydd Sul.
鈥淢ae鈥檔 ymddangos y gallai wedi digwydd ddydd Sul diwethaf yn ystod Storm Bert," meddai.
鈥淐lywodd cwpl o drigolion glec uchel. Yn anffodus, ni chafodd ei adrodd, felly nad oedden ni'n gallu gweithredu'n syth, ond mae'n edrych yn debyg mai dyna achosodd y cwymp, pan ddaeth popeth i lawr o'r mynydd a llifo trwy'r ffos."
Dywedodd Mr Carter fod y twll yn "sylweddol" a'n mesur "tua 30 i 40 troedfedd o ddyfnder a phum metr o led".
Eglurodd fod rhai o'r bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn aros gyda theulu neu ffrindiau, tra bod y gweddill wedi'u symud gan y cyngor i westai lleol, meddai.
Roedd cau'r stad yn benderfyniad "anodd", meddai, ond fod y trigolion "yn deall bod rhaid iddynt symud am resymau diogelwch".
Nid oes amserlen ar gyfer pryd fydd y stad yn ailagor oherwydd mae'r gwaith sydd angen ei wneud "yn dibynnu ar bryd y gallwn atal y d诺r rhag dod i lawr a chau'r ffos ei hun," meddai Mr Carter.
鈥淯nwaith y bydd hynny wedi鈥檌 wneud, gallwn siarad 芒鈥檙 cwmn茂au ynni a d诺r i weld a allwn gael rhyw fath o gyflenwad i rai o鈥檙 cartrefi."
Ychwanegodd: 鈥淔e fyddwn ni鈥檔 gwneud bob dim o fewn ein gallu i sicrhau nad yw鈥檙 math yma o beth yn digwydd eto.
鈥淢ae鈥檙 ffos yn cael ei wirio bob dwy flynedd. Mae hyn wedi digwydd gan fod Storm Bert wedi golchi popeth i lawr gyda chymaint o ffyrnigrwydd, mae wedi achosi difrod strwythurol i鈥檙 bwa a dyna sydd wedi achosi鈥檙 cwymp鈥.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 awr yn 么l