³ÉÈË¿ìÊÖ

'Achosion o Covid mewn ysgolion ddim yn syndod'

  • Cyhoeddwyd
Girl with hand up in classFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae grwpiau o blant yn gorfod hunan-ynysu oherwydd achosion o coronafeirws ymhlith disgyblion a staff ysgolion i'w ddisgwyl, yn ôl y Gweinidog Addysg.

Ers dechrau'r tymor mae dwsinau o ysgolion wedi gweld achosion ac mewn rhai amgylchiadau wedi gofyn i flynyddoedd ysgol cyfan i gadw draw am bythefnos.

Mewn neges fideo, diolchodd Kirsty Williams i ysgolion am weithredu yn gyflym pan roedd achosion wedi codi.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Kirsty Williams

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Kirsty Williams

Ar wahân i'r rhai sy'n ynysu, mae disgwyl i bob disgybl fod nôl yn yr ysgol yn llawn amser o heddiw ymlaen, wedi i ysgolion gael pythefnos i gyfarwyddo â'u trefniadau newydd.

'Angen cael cydbwysedd'

Yn ôl canllawiau'r Llywodraeth fe ddylai ysgolion drefnu disgyblion mewn grwpiau ac osgoi cyswllt rhwng grwpiau gymaint â phosibl, ond mae'r drefn yn amrywio o ysgol i ysgol.

Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, yn Abertawe, mae nhw wedi penderfynu peidio setio plant blwyddyn 7, 8 a 9 eleni er mwyn gallu eu cadw mewn dosbarthiadau cyson.

Ond mae'n rhaid i'r disgyblion hÅ·n symud fwy i wneud eu pynciau TGAU gwahanol.

Mae blynyddoedd gwahanol yn symud o gwmpas yr ysgol a chael egwyl a chinio ar adegau gwahanol fel nad ydyn nhw'n dod mewn i gyswllt.

Dywedodd y pennaeth Simon Davies mai "lleihau risg" oedd y bwriad "dyw e ddim yn gwaredu risg yn gyfan gwbwl".

Disgrifiad o’r llun,

Mae daearyddiaeth yr ysgol yn penderfynu pa gamau ddylid eu cymryd, medd Simon Davies

"Mae pob ysgol yn mynd i fod yn wahanol o ran sut mae wedi ei osod allan, o ran daearyddiaeth ysgol ac felly mae cyd-destun ysgol yn bwysig iawn pan y'ch chi'n ystyried pa gamau i'w cymryd er mwyn gallu cyd-fynd gyda'r canllawiau," meddai.

"Mae e'n gydbwysedd yn 'dyw e. Chi mo'yn rhoi profiad addysgol gwerthfawr lle mae'r plant yn mwynhau ac yn cael eu hysgogi i ddysgu ond mae'n rhaid i ni ystyried y mesurau diogelwch Covid allweddol yma sy'n lleihau'r risg o ledaenu'r feirws os bydde fe byth yn dod mewn i waliau'r ysgol."

Dangosodd data Iechyd Cyhoeddus Cymru wythnos diwethaf bod 36 o achosion wedi bod mewn 31 o ysgolion, er mae'n debygol bod y niferoedd wedi cynyddu tipyn ers cyhoeddi'r ffigyrau.

Bu'n rhaid i blant Blwyddyn 7 mewn dwy ysgol uwchradd yng Nghasnewydd hunan-ynysu ar ôl i ddisgyblion gael prawf positif am coronafeirws ac fe ddywedodd ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth dros 200 o ddisgyblion i aros adref.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y canllawiau ar gyfer ysgolion yn ei gwneud yn glir bod "grwpiau bach a chyson yn helpu i leihau'r risg o drosglwyddo drwy gyfyngu ar nifer y dysgwyr a'r staff sydd mewn cysylltiad â'i gilydd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae canllawiau clir wedi'u cyflwyno ar gyfer pob oed ysgol, medd y Gweinidog Addysg

Mae'r canllawiau'n dweud y gallai grwpiau bach, maint dosbarth, fod yn bosibl mewn ysgolion cynradd a blynyddoedd cyntaf ysgol uwchradd, ond taw grwpiau cyswllt blwyddyn gyfan oedd yn debygol ar gyfer disgyblion oedran TGAU a hÅ·n gan eu bod nhw'n cymryd gwahanol opsiynau.

Mewn fideo ar Twitter, dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams bod gan ysgolion gynlluniau mewn lle pan fo achosion yn codi.

"O ystyried bod y coronafeirws yn dal i fodoli yn ein cymunedau, roedd hyn i'w ddisgwyl", meddai Kirsty Williams.

"Rwy'n gwybod y bydd hyn yn siomedig iawn i'r staff a'r disgyblion sydd yn gorfod hunan-ynysu ond hoffwn ddiolch i'r ysgolion hynny sydd wedi cymryd camau ar unwaith i helpu i atal y coronafeirws rhag lledu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Ymbellhau yn amhosib'

Yn ôl Ioan Rhys Jones o undeb athrawon UCAC, mae na bryder y bydd y sefyllfa yn gwaethygu.

"Mae am fod yn broblem wrth i ni fynd mlaen - mae na achosion yn mynd i daro bron pob ysgol - yn sicr pob ysgol uwchradd a be 'dan ni isio gwneud yn siŵr yw bod na liniaru risg a gwneud yn siŵr nad ydy e'n ymledu yn yr ysgol," meddai.

Mae'n dweud bod geiriau'r Lywodraeth am ymbellhau o fewn ysgolion yn afrealistig.

"Y gwir plaen amdani ydy o geisio cael addysg normal neu awyrgylch normal mewn ysgol mae ymbellhau cymdeithasol yn amhosib, dyna pam fod angen lliniaru risg gymaint a phosib".