成人快手

Anfon plant o ysgol yng Ngheredigion o achos Covid-19

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysgol Penllwyn yng Nghapel Bangor

Mae nifer o ddisgyblion mewn ysgol gynradd yng Ngheredigion wedi cael eu hanfon adref i hunan-ynysu wedi i rywun yn yr ysgol dderbyn canlyniad prawf positif am Covid-19.

Gofynnwyd i ddisgyblion mewn gr诺p cyswllt yn Ysgol Gynradd Penllwyn, Capel Bangor i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar 么l cadarnhau achos yn yr ysgol.

Nid yw'n glir sawl disgybl yn yr ysgol sydd wedi ei effeithio gan hyn.

Ddydd Iau fe gafodd disgyblion mewn nifer o ysgolion yn y de-ddwyrain, gan gynnwys dwy ysgol uwchradd yng Nghasnewydd, eu hanfon adref i hunan-ynysu am yr un rheswm.

'Gweithdrefnau cryf ar waith'

Mewn datganiad am y sefyllfa yn yr ysgol gynradd yng Nghapel Bangor, dywedodd Cyngor Ceredigion: "Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.

"Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi'u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond un gr诺p cyswllt y gofynnir iddo hunan-ynysu.

"Mae'r ysgol wedi cysylltu 芒'r holl rieni a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan D卯m Olrhain Cyswllt Ceredigion."Mae'r cyngor yn annog pob rhiant i gyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:

  • tymheredd uchel;

  • peswch parhaus newydd;

  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.