成人快手

Ailagor campfeydd, pyllau nofio a chanolfannau chwarae

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn rhedegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd campfeydd yn agor yng Nghymru ddydd Llun ond yn edrych yn go wahanol

Mae pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd, campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael yr hawl i ailagor o ddydd Llun ymlaen.

Yn ogystal bydd canolfannau chwarae i blant hefyd yn gallu ailagor, ond bydd ardaloedd na ellir eu glanhau'n hawdd, fel pyllau peli, yn parhau ar gau.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y dylid cael pellter o ddau fetr lle bo'n bosib, a chymryd mesurau eraill i osgoi cysylltu'n agos fel gosod sgriniau, defnyddio gorchuddion wyneb a gwella glanweithdra.

Mae cynghorau wedi cael pwerau ychwanegol i sicrhau fod pob canolfan yn cydsynio i ofynion cyfreithiol.

Os nad yw busnesau yn gweithredu'n gywir mae gan awdurdodau lleol yr hawl i roi rhybuddion ac mewn amgylchiadau eithafol lle nad yw busnes yn gweithredu'r rhybudd mae gan gynghorau yr hawl i orchymyn iddyn nhw gau.

'Braf gweld pobl eto'

Mae Rhodd Hughes yn hyfforddwraig bersonol yng Nghaerdydd a dywed ei bod hi'n edrych ymlaen i gampfeydd ailagor.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd: "Dwi'n falch iawn bod petha'n ailagor ond gyda'r gofal eithaf wrth gwrs. Dylai campfeydd fod wedi cael yr hawl i ailagor yr un pryd 芒 thafarndai.

"Dwi wedi gneud lot mwy o sesiynau na'r oeddwn i'n feddwl ar y we, a rhai tu allan - mae hynny wedi bod yn gr锚t ond bydd hi'n braf i weld pob eto."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd rhaid i nofwyr fod yn barod i fynd i'r pwll yn syth

Does dim disgwyl y bydd yr un campfa yn edrych yr un fath - mae llawer o waith addasu wedi bod er mwyn cwrdd 芒 gofynion.

Bydd ystafelloedd ager a sawnas yn parhau ynghau ac mae disgwyl i nofwyr gyrraedd y pwll yn "barod i nofio".

'Rhaid bwcio o flaen llaw'

Dywedodd Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw'n Iach Gwynedd: "Mae 'di bod yn lot fawr o waith. Yma yng Ngwynedd, 'dan ni ddim yn agor tan yr ugeinfed (o Awst).

"'Dan ni wedi gweithio allan faint yn union o amser 'dan ni angen i neud yr holl baratoadau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Byw'n Iach Gwynedd fod yna lot o newidiadau wedi gorfod digwydd

"Mae 'na waith sylweddol angen ei wneud i addasu adeiladau ac mae gennym ni nifer sylweddol o staff sydd wedi bod ar gynllun ffyrlo sydd angen dychwelyd a derbyn hyfforddiant.

"O ran y prif newidiadau, 'dan ni wedi bod yn adleoli offer i sicrhau bod 'na bellter cymdeithasol. 'Dan ni wedi addasu llif yr adeilad felly ar y cyfan, cyfeiriad un ffordd sydd yna o gwmpas yr adeilad a 'dach chi'n gadael trwy ddrws gwahanol i'r fynedfa.

"Yn y derbynfeydd mae 'na newidiadau ar gyfer pawb. Mannau ychwanegol i lanhau dwylo a nwyddau glanhau i'r offer. Bydd yr ystafelloedd newid ar gau - mae 'na restr di-ri o newidiadau."

'Rhan o'r datrysiad'

Ychwanegodd Ms Davies ei fod yn mynd i fod yn brofiad gwahanol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yna gyfarwyddiadau manwl i ddefnyddwyr yn y campfeydd

"'Dan ni'n trio paratoi ein cwsmeriaid. 'Dan ni'n darparu fideo ar-lein - felly bydd disgwyl i bawb wylio'r fideo. Un o'r pethau pwysicaf ydi gewch chi ddim jest troi fyny, mae 'na system bwcio o flaen llaw," meddai.

"'Dan ni'n raddol yn ehangu y gwasanaethau felly cyfnodau penodol yn y campfeydd o dri chwarter awr sydd ar gael. Mi fydd y gampfa yn cau wedyn i staff ddod mewn i lanhau.

"Does 'na'm byd heb risg yn y byd 'ma - mae'n rhaid bod yn onest am hynny. Ond mae 'na risg hefyd o beidio 芒 bod yn active.

"Dydi cadw canolfannau fel hyn ar gau ddim yn gwneud synnwyr. O ran y pandemig, 'dan ni'n rhan o'r datrysiad."