成人快手

Pyllau, campfeydd a chanolfannau hamdden i agor ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
Gym

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd, campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael ailagor ddydd Llun, gan ddilyn y cynllun gyhoeddwyd rai diwrnodau yn 么l.

Bydd canolfannau chwarae i blant hefyd yn gallu ailagor, ond fe fydd ardaloedd na ellir eu glanhau'n hawdd, fel pyllau peli, yn parhau ar gau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen cyfreithiol ar fusnesau i "leihau'r risg o ddod i gysylltiad 芒 coronafeirws" ar eu safleoedd.

Mae hynny'n cynnwys sicrhau bod pobl yn cadw pellter o ddwy fetr lle bo'n bosibl, a chymryd mesurau eraill i osgoi cysylltu'n agos fel gosod sgriniau, defnyddio gorchuddion wyneb a gwella glanweithdra.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd awdurdodau lleol yn cael mwy o bwerau i orfodi'r busnesau i gydymffurfio.

"I'r lleiafrif bach o unigolion a busnesau nad ydynt yn cydymffurfio 芒'r gyfraith, rwyf am ei gwneud yn glir y byddwn yn gweithredu ac ni fyddwn yn oedi cyn cau safleoedd unigol os bydd angen," meddai.

"Mae awdurdodau lleol yn cael mwy o bwerau i ymyrryd, ac i ymateb yn fwy effeithiol i gwynion gan gynnwys y rhai a adroddwyd i TUC Cymru a'i hundebau cysylltiedig."

'Angen gwneud y newid yfory'

Croesawodd Aelod Senedd y Ceidwadwyr, Darren Millar - sy'n siarad ar faterion adferiad Covid-19 - y cyhoeddiad diweddaraf.

Ond dywedodd ei fod am i'r newidiadau ddod i rym ddydd Sadwrn, ddeuddydd ynghynt.

"Mae penwythnosau yn rhoi cyfleoedd pwysig i lawer o bobl sy'n gweithio fanteisio ar gyfleusterau hamdden," meddai.

"Mae'n drueni mawr bod Llywodraeth Cymru wedi dewis gweithredu'r newidiadau hyn o ddydd Llun, yn hytrach nag yfory, gan y bydd yn arwain at benwythnos coll arall eto i bawb dan sylw."